Ceisiadau Ar Agor Nawr
Cwmni: Real SFX
Rôl Prentisiaeth: Prentis Swyddfa Gynhyrchu
Lleoliad: Caerdydd
Trosolwg o’r Cwmni:
Mae Real SFX yn gwmni effeithiau arbennig ymarferol arobryn sy’n arbenigo mewn creu effeithiau tân, atmosfferig, rigiau gimbal, propiau meddal a gwneud modelau o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiannau teledu, ffilm a digwyddiadau. Mae ein tîm o oruchwylwyr a thechnegwyr medrus iawn yn creu effeithiau ymarferol pwrpasol sy’n dod â chynyrchiadau yn fyw. Gyda’n pencadlys yn ein gweithdy o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd, gyda gweithdai ledled y DU, rydym wedi gweithio ar gynyrchiadau teledu o’r radd flaenaf fel Doctor Who, YOU a Fool Me Once, yn ogystal â ffilmiau nodwedd fel Expendables 4 a Havoc.
Trosolwg o’r Swydd:
Rydym yn chwilio am Brentis Swyddfa Gynhyrchu i ymuno â’n tîm deinamig yng Nghaerdydd a chanolfannau Real SFX eraill. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle lefel mynediad ardderchog i’r diwydiant creadigol, gan ddarparu profiad ymarferol mewn gweinyddu cynhyrchu o fewn amgylchedd creadigol a chyflym.
Sylwch: Nid yw’r swydd hon yn ymwneud â phrostheteg, colur na gwaith CGI; mae’r cwmni yn canolbwyntio ar greu effeithiau ymarferol, corfforol o’r dechrau ar gyfer ffilm a theledu.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Fel Prentis Swyddfa Gynhyrchu, byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Cynhyrchu ac yn cyfrannu at dasgau gweinyddol amrywiol, gan gynnwys:
-
Ateb a rheoli galwadau ffôn
-
Creu, diweddaru a chynnal gwaith papur cynhyrchu a chronfeydd data
-
Mewnbynnu data a rheoli dogfennau
-
Trefnu logisteg criw, cludiant a llety
-
Gweinyddiaeth swyddfa gyffredinol, gan gynnwys llungopïo, ffeilio, a threfnu deunyddiau
-
Mynychu digwyddiadau diwydiant a chynorthwyo gyda chydlynu
-
Dosbarthu gwaith papur cynhyrchu i’r criw a rhanddeiliaid
-
Cydlynu a chysylltu â nifer o gynyrchiadau ar yr un pryd, gan sicrhau cyfathrebu llyfn a llif gwaith
-
Darllen a dadansoddi sgriptiau
Oriau Gwaith:
-
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb i 6.30yh neu
-
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00yb tan 6.00yh
Sgiliau a Rhinweddau Hanfodol:
-
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf
-
Sgiliau trefnu a gweinyddol rhagorol gyda sylw uchel i fanylion
-
Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd fel rhan o dîm
-
Sgiliau datrys problemau cryf a’r gallu i weithio’n dda dan bwysau
-
Y gallu i addasu a’r gallu i amldasgio mewn amgylchedd cyflym
-
Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol
-
Hyfedredd mewn MS Office a gwybodaeth am gyfrifiaduron Mac
-
Trwydded Yrru lawn y DU
-
Agwedd “gallu gwneud” ragweithiol a chadarnhaol
Sgiliau Dymunol:
-
Rhuglder yn y Gymraeg (dymunol ond ddim yn hanfodol)
Pam Ymuno â Real SFX?
Fel prentis gyda Real SFX, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy ym myd effeithiau arbennig a rheoli cynhyrchu. Byddwch yn rhan o dîm sy’n gwerthfawrogi creadigrwydd, arloesedd a chydweithio, gan weithio ar rai o’r prosiectau teledu a ffilm fwyaf cyffrous yn y DU.
Cyflog
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £21,000 y flwyddyn.
Dyddiad Cau:
Canol dydd, Dydd Mercher, 9fed o Hydref 2024.
Dyddiad Dechrau:
Dydd Llun, 28ain o Hydref 2024.
Sut i wneud cais:
Os ydych chi’n frwd dros ymuno â byd effeithiau arbennig ymarferol a chael profiad ymarferol mewn amgylchedd cynhyrchu prysur, gwnewch gais heddiw i ymuno â thîm Real SFX!
Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin isod.
CWESTIYNAU CYFFREDIN
BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?
Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau yn ennill hyfforddiant ymarferol ‘hands-on’, gwneud cysylltiadau diwydiant ac yn ennill sgiliau technegol a phroffesiynol. Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau.
Byddant hefyd yn gweithio tuag at Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft Lefel 3, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.
BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?
Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth (dysgu rhithwir/bloc dysgu wyneb i wyneb yn Sgil Cymru, Great Point Seren Studios, Rumney, Caerdydd) ac hyfforddiant yn y gweithle.
PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?
Mae’r cynllun Prentisiaeth hwn ar Lefel 3 ac felly’n cyfateb i Lefel A. Sylwch: nid yw ein cynlluniau prentisiaeth wedi’u hanelu at raddedigion. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os nad yw eich gradd yn yr un maes galwedigaethol â’r rhaglen brentisiaeth hon.Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 3 sy’n gyfwerth â Lefelau A.
Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.
ALLA’I WNEUD Y BRENTISIAETH OS YDW I MEWN ADDYSG LLAWN AMSER?
Na, ni fyddwch yn cael gwneud cais am y cynllun prentisiaeth os ydych chi mewn addysg llawn amser o’r 28ain o Hydref 2024. Bydd prentisiaid ar gontract llawn amser am gyfnod y rhaglen brentisiaeth, felly mae’n rhaid i chi fod ar gael i weithio ac astudio am y cyfnod cyfan.
PA CYMWYSTERAU FYDDA I EU HANGEN I GEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?
Yn ddelfrydol dylai fod gennych 4 TGAU (A*-C) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, ond NID yw’n hanfodol.O leia 4 TGAU gyda’r graddau A i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.
A FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU TALU, NEU OES RHAID IDDYN NHW DALU COSTAU ASTUDIO?
Nid oes rhaid i’r prentisiaid dalu ceiniog tuag at eu hyfforddiant a byddant yn cael eu thalu cyflog blynyddol gan y cyflogwr..
BLE FYDD Y PRENTISIAID YN GWEITHIO?
Lleolir prentisiaid gyda’u cyflogwr yng Nghymruy cynyrchiadau yng Nghymru, ond mae’n bosib y bydd angen i rai prentisiaid deithio yn achlysurol i setiau a lleoliadau ffilmio mewn ardaloedd eraill.
SUT FYDD RHAGLEN Y BRENTISIAETH N CAEL EI STRWYTHURO?
Rhaglen llawn-amser dros 12 mis yw hon a dyma fydd y strwythur:
- Bydd y rhaglen yn dechrau gyda bloc dysgu rhithwir/bloc dysgu wyneb i wyneb sef cwrs rhagarweiniol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â brentisiaid eraill fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
- Yn dilyn y cwrs rhagarweiniol bydd pob prentis yn mynd at eu lleuoliad lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol. Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth (rhithwir) yn ystod cyfnod 12 mis y rhaglen.
- Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn cwblhau’r Rhaglen Gloi. Bydd hwn yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
- PWYSIG – Yn dilyn 12 mis o ddysgu a hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cemniau lleoliad. Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmniau cynhyrchu yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 12 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.
PWYSIG – Amserau Gwaith tra mewn Swydd
Mae natur cynhyrchiad yn golygu’n bur aml bod angen hyblygrwydd a bydd gofyn i’r prentis weithio oriau hir dros gyfnodau amser dwys.
Rhaid i chi fod yn ymwybodol ei bod hi’n bosib y bydd angen i chi weithio hyd at 12 awr y diwrnod gan gynnwys penwythnosau. Bydd diwrnodiau byrrach a/neu gwyliau ychwanegol yn gwneud yn iawn am hyn.
BETH SY’N DDISGWYLEDIG O’R PRENTISIAID AR ÔL IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y PRENTISIAETH?
Bydd disgwyl i chi:
- weithio fel aelod iau criw a chwblhau tasgau a osodwyd gan eich goruchwyliwr
- fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gydag aelod o’r tim Sgil Cymru yn ogystal a cyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn reolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwysedd
- fynychu pob sesiwn dosbarth rhithwir/wyneb i wyneb
- fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda chynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi
- gwblhau pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster
SUT FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU CEFNOGI AR Y RHAGLEN?
- Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda pob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro
- Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis i ennill y cymhwyster
- Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda pob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen
- Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi
SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?
Ar ddiwedd y 12 mis bydd gan prentisiaid:
- Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
- Portffolio o waith
- Cysylltiadau yn y diwydiant
- Gwella tebygolrwydd o gael swydd
- Sgiliau technegol a proffesiynol
- Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft
Y BROSES GYFWELD
- Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu Gweithdy/Cyfweliad gyda’r tim Sgil Cymru a’r cyflogwr. Yma byddwch yn cael cyfarfod â staff Sgil Cymru.
- Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw. Bodd bynnag bydd rhaid i chi arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hwn.
Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gymryd prawf llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd. Wedi hyn bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com