CRIW y presennol a’r gorffennol ar MADFABULOUS!

Mae cynhyrchiad newydd Mad as Birds Films, Madfabulous, newydd orffen ffilmio yng ngogledd Cymru. Yn gweithio ar y cynhyrchiad roedd nid 1, nid 2 ond 3 o’n brentisiaid a chyn-brentisiaid CRIW! Roedd y tim yn cynnwys cyn-brentisiaid Elin Glyn Jones a Fiorella Wyn Roberts ac un o’n prentisiaid presennol Flo Baverstock.

Roedd Elin yn gweithio fel rhedwr yn yr adran gynhyrchu, Fiorella yn yr adran golur (sydd hefyd yn symud ymlaen gyda’r tim i weithio ar Peaky Blinders) ac mae Flo wedi bod yn gweithio yn yr adran gwisgoedd (ac yn rhan o brentisiaieth CRIW ar hyn o bryd!).

Llongyfarchiadau i chi gyd, mae’n wych i weld ein prentisiaid a chyn-brentisiaid yn gweithio gyda”u gilydd ar brosiectau ffantastig fel hyn!