
Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Jack Osman-Byrne!
Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jack gyda ni ar brentisiaeth CRIW yn gynharach yn y flwyddyn. Yn ystod ei brentisiaeth, roedd Jack yn hynod o brysur yn gweithio dros nifer o adrannau a chynyrchiadau gyda amrywiaeth o brofiadau. Yn y bennod yma, mae Jack yn trafod sut oedd gweithio dros y rhannau gwahanol yma o’r diwydiant, o ffeithiol i ol-gynhyrchiad, y swyddfa gynhyrchu i weithio ar y llawr.
Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify, neu ar ein tudalen YouTube yma.