Prentis Adeiladu Golygfaol CTS (WNO)

CEISIADAU NAWR AR GAU

Mae CTS yn chwilio am 2 brentis newydd i weithio yn y rôl hon.

Cwmni: Cardiff Theatrical Services Ltd (WNO)

Rôl Prentisiaeth: Prentis (Adeiladu Golygfaol)

Cyfrifol i: Pennaeth Adeiladu

Lleoliad: Caerdydd

Cyflog: £21,840 y flwyddyn

Dyddiad cau: 24 Hydref 2024 am 12yp

 

Beth mae Prentisiaid Adeiladu Golygfaol yn ei wneud?

Bydd Prentis Adeiladu Golygfaol yn treulio llawer o amser yn yr Adrannau Gwaith Saer a Ffabrigo/Metel yn cyflawni tasgau fel:

● Torri pren a deunyddiau metel yn gywir i faint
● Dysgu sut i adeiladu (ac yna creu) fflatiau golygfaol ffrâm bren cyn i artistiaid golygfaol eu gorffen.
● Dysgu technegau weldio sylfaenol
● Gweithio’n agos gydag aelodau eraill y tîm i gydosod elfennau o’r set a’u ffitio at ei gilydd ar gyfer gorffen, pwyso a chydosod cyn eu llwytho allan.

Mae’r gallu i ddarllen lluniadau a chynlluniau graddedig ac i weithio’n systematig trwy dasg yn hanfodol. Gallai’r rôl hon arwain at ymgysylltiad pellach fel Cynorthwyydd yn y naill neu’r llall o’r Adrannau Adeiladu a datblygiad gyrfa parhaus i ddod yn adeiladwr golygfeydd medrus. Os oes gennych chi sgiliau ymarferol sylfaenol da mewn gwaith coed neu waith metel ac yn awyddus i weithio ar brosiectau ar raddfa fawr gallai hyn fod yn ddewis arall gwych i Addysg Uwch lle gallwch chi ennill arian wrth ddysgu!

I ddod yn Brentis Adeiladu Golygfaol, yn ddelfrydol bydd gennych 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Gwaith Coed, Gwaith Metel neu DT. Bydd angen i chi allu dod o hyd i atebionnymarferol i broblemau a ffynnu gan weithio mewn amgylchedd gweithdy prysur a gweithgar. Byddwch hefyd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod yn chwaraewr tîm yn ogystal â bod yn gyfforddus yn gweithio ar eich menter eich hun.

Enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Adeiladu Golygfaol eu gwneud yn y dyfodol –

● Saer Cynorthwyol
● Gwneuthurwr Cynorthwyol
● Gwneuthurwr / Weldiwr (gweithio i fyny trwy system raddio)
● Saer (yn gweithio i fyny trwy system raddio)
● Saer Wrth Gefn (Mewn Ffilm neu Deledu)
● Saer Cynorthwyol ar Daith gyda chwmni theatr neu opera
● Technegydd Llwyfan

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?
● Meddylfryd ymarferol
● Creadigol a llawn dychymyg
● Brwdfrydig
● Cyfathrebwr da
● Ymarferol
● Hunangyfeiriedig
● Hyderus
● Rheoli amser yn dda

Prif ddyletswyddau
● Paratoi a gwneud eitemau golygfaol gyda’r tîm o Seiri a Gwneuthurwyr yn CTS.
● Gweithio’n agos gyda thîm y gweithdy ar samplau ac eitemau gorffenedig gwirioneddol o olygfeydd gan gynnwys fflatiau pren, unedau llwyfannu ac eitemau golygfaol 3D eraill.

Sgiliau Hanfodol
● Gallu ymarferol sylfaenol naill ai mewn gwaith coed neu waith metel (neu’r ddau)
● Yn awyddus ac yn llawn cymhelliant i weithio’n galed
● Creadigrwydd a dychymyg
● Y gallu i reoli eich amser, cwrdd â therfynau amser a gweithio o fewn tîm mewn amgylchedd gweithdy prysur

AM Y SEFYDLIAD
Cardiff Theatrical Services LTD yw’r cwmni sy’n gwneud golygfeydd sy’n eiddo i Opera Cenedlaethol Cymru ac mae ganddynt ystod eang o gleientiaid proffil uchel yn amrywio o Ganolfan Mileniwm Cymru i’r Tŷ Opera Brenhinol, Glyndebourne; gyda nifer o gredydau diweddar yn y West End megis Guys and Dolls, Burlesque a Hadestown a gyda llyfr archebion prysur ar gyfer 2024/25.

Rydym yn darparu gwasanaethau golygfaol o ansawdd uchel i gleientiaid yn y DU a ledled y byd ac mae gennym dîm medrus o Saer, Gweithwyr Metel, Artistiaid Golygfaol, Drafftsmon a Rheolwyr Prosiect. Mae llawer o’n gweithwyr allweddol wedi bod yma ers amser maith ac rydym yn awyddus i ddechrau datblygu a dod â’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr ymlaen!

Dyddiad Cau:

Canol dydd, Dydd Iau, 24ain o Hydref 2024.

Dyddiad Dechrau:

Dydd Llun, 11eg o Dachwedd 2024.

Sut i wneud cais:

CEISIADAU NAWR AR GAU

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin isod.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?

Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau yn ennill hyfforddiant ymarferol ‘hands-on’, gwneud cysylltiadau diwydiant ac yn ennill sgiliau technegol a phroffesiynol. Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau.

Byddant hefyd yn gweithio tuag at Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft Lefel 3, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.

 

BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?

Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth (dysgu rhithwir/bloc dysgu wyneb i wyneb yn Sgil Cymru, Great Point Seren Studios, Rumney, Caerdydd) ac hyfforddiant yn y gweithle.

 

PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

Mae’r cynllun Prentisiaeth hwn ar Lefel 3 ac felly’n cyfateb i Lefel A. Sylwch: nid yw ein cynlluniau prentisiaeth wedi’u hanelu at raddedigion. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os nad yw eich gradd yn yr un maes galwedigaethol â’r rhaglen brentisiaeth hon. Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 3 sy’n gyfwerth â Lefelau A.

Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

 

ALLA’I WNEUD Y BRENTISIAETH OS YDW I MEWN ADDYSG LLAWN AMSER?

Na, ni fyddwch yn cael gwneud cais am y cynllun prentisiaeth os ydych chi mewn addysg llawn amser o’r 11eg o Dachwedd 2024. Bydd prentisiaid ar gontract llawn amser am gyfnod y rhaglen brentisiaeth, felly mae’n rhaid i chi fod ar gael i weithio ac astudio am y cyfnod cyfan.

 

A FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU TALU, NEU OES RHAID IDDYN NHW DALU COSTAU ASTUDIO?

Nid oes rhaid i’r prentisiaid dalu ceiniog tuag at eu hyfforddiant a byddant yn cael eu thalu cyflog blynyddol gan y cyflogwr..

 

BLE FYDD Y PRENTISIAID YN GWEITHIO?

Lleolir prentisiaid gyda’u cyflogwr yng Nghymruy cynyrchiadau yng Nghymru, ond mae’n bosib y bydd angen i rai prentisiaid deithio yn achlysurol i setiau a lleoliadau ffilmio mewn ardaloedd eraill.

 

SUT FYDD RHAGLEN Y BRENTISIAETH N CAEL EI STRWYTHURO?

Rhaglen llawn-amser dros 12 mis yw hon a dyma fydd y strwythur:

  • Bydd y rhaglen yn dechrau gyda bloc dysgu rhithwir/bloc dysgu wyneb i wyneb sef cwrs rhagarweiniol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â brentisiaid eraill fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
  • Yn dilyn y cwrs rhagarweiniol bydd pob prentis yn mynd at eu lleuoliad lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol.  Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth (rhithwir) yn ystod cyfnod 12 mis y rhaglen.
  • Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn cwblhau’r Rhaglen Gloi.  Bydd hwn yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
  • PWYSIG – Yn dilyn 12 mis o ddysgu a hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cemniau lleoliad.  Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmniau cynhyrchu yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 12 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.

 

PWYSIG – Amserau Gwaith tra mewn Swydd

Mae natur cynhyrchiad yn golygu’n bur aml bod angen hyblygrwydd a bydd gofyn i’r prentis weithio oriau hir dros gyfnodau amser dwys.

Rhaid i chi fod yn ymwybodol ei bod hi’n bosib y bydd angen i chi weithio hyd at 12 awr y diwrnod gan gynnwys penwythnosau.  Bydd diwrnodiau byrrach a/neu gwyliau ychwanegol yn gwneud yn iawn am hyn.

 

BETH SY’N DDISGWYLEDIG O’R PRENTISIAID AR ÔL IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y PRENTISIAETH?

Bydd disgwyl i chi:

  • weithio fel aelod iau criw a chwblhau tasgau a osodwyd gan eich goruchwyliwr
  • fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gydag aelod o’r tim Sgil Cymru yn ogystal a cyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn reolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwysedd
  • fynychu pob sesiwn dosbarth rhithwir/wyneb i wyneb
  • fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda chynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi
  • gwblhau pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster

 

SUT FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU CEFNOGI AR Y RHAGLEN?

  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda pob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro
  • Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis i ennill y cymhwyster
  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda pob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen
  • Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi

 

SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?

Ar ddiwedd y 12 mis bydd gan prentisiaid:

  • Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
  • Portffolio o waith
  • Cysylltiadau yn y diwydiant
  • Gwella tebygolrwydd o gael swydd
  • Sgiliau technegol a proffesiynol
  • Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft

 

Y BROSES GYFWELD

  • Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu Gweithdy/Cyfweliad gyda’r tim Sgil Cymru a’r cyflogwr. Yma byddwch yn cael cyfarfod â staff Sgil Cymru.
  • Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw.  Bodd bynnag bydd rhaid i chi arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hwn.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gymryd prawf llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd. Wedi hyn bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com