
Mae gennym lawer o newyddion prentisiaid cyffrous i’w rannu!
Dyma grynodeb o rai o leoliadau gwaith ein prentisiaid CRIW ar hyn o bryd:
Mae Tommy Harrop o CRIW yn y gogledd, yn dechrau gyda’r Adran Gelf ar yr ail gyfres o ‘Bariau’ ar ddydd Llun. Mi fydd yn gweithio allan o stiwdio Aria yn Llangefni. Mae Flo Baverstock sydd hefyd o CRIW yn y gogledd, yn dechrau gyda’r Adran Gwisgoedd ar Rownd a Rownd ar ddydd Llun, ac mae hi hefyd yn gweithio o stiwdio Aria. Rondo sydd yn cynhyrchu’r 2 gynhyrchiad yma!
Ers Hydref y 7fed yn y de, mae prentis CRIW, Mali Whitty, wedi bod yn gweithio yn yr Adran Gelf ar gynhyrchiad ‘The Guest’ gyda Quay Street Productions. Mae Jake Finch hefyd wedi bod yn gweithio yn yr Adran Gelf, ond ar gynhyrchiad ‘Out There’ gyda Stasesh Ltd. Ar gynhyrchiad Triongl o ‘Y Golau 2: Dŵr’, mae Rob Cairns wedi bod gyda’r Adran Lleoliadau, hefyd ers y 7fed o Hydref.
I gloi, mae Lewis Hemmings yn cychwyn yn yr Adran Gamera ar gynhyrchiad ‘H is for Hawk’ gyda Good Gate Media/Plan B/Film 4 ar yr 28ain o Hydref.
Pob hwyl i chi gyd!