Mae Lansiad ‘Siop Un Stop – One Stop Shop’ Wedi Dechrau!

Mae lansiad ‘Siop Un Stop-One Stop Shop’ wedi dechrau!

Mae Lowri, un o reolwyr y prosiect, a Zoe ein Mentor ‘Siop Un Stop-One Stop Shop’ wedi bod yng Ngogledd Cymru’r wythnos hon i ymweld â TAPE ym Mae Colwyn ac i gwrdd â Steve Swindon – dim ond rhai o’r bobl wych sydd wedi dechrau defnyddio’r wefan a’i hadnoddau. Buont hefyd yn teithio i Ysgol y Gogarth gyda Steve i drafod y ffilmiau mae’r myfyrwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd.

Yna, ymwelodd Zoe a Lowri â Ffair Gyrfaoedd Prifysgol Bangor ac ymuno ag un o’n partneriaid, Academi Sgrin Cymru/Wales Screen Academy, sy’n cael ei rhedeg gan Carol Jones, i rannu’r nodweddion gyda myfyrwyr.

Dyma grynodeb gan Zoe o’i mis cyntaf yn y swydd, a ysgrifennwyd cyn yr ymweliad i Fangor:

“Wel, mae hi wedi bod yn bedair wythnos ers fy niwrnod cyntaf gyda Siop Un Stop – One Stop Shop, allwch chi gredu’r peth?

Yn hytrach na chael un lansiad caled, byddwn yn lansio’n feddal mewn nifer o ddigwyddiadau yn yr wythnosau nesaf, gan adeiladu momentwm a diweddu gyda Ffair Gyrfaoedd Culture Connect yn y Sgwâr Canolog. Roeddem am sicrhau bod y gwefan yn llawn o gyfleoedd cyffrous, newyddion a chyfleoedd partneriaid cyn mynd yn fyw. Cymerwch olwg… rydym yn meddwl ei fod yn dod ymlaen yn dda!

Yn ogystal ag adeiladu’r adnoddau ar y dudalen, rydw i wedi bod allan, yn bwydo Siop Un Stop – One Stop Shop i’r rhanddeiliaid presennol a darpar fudd-ddeiliaid i weld sut y gallem gydweithio dros y misoedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys Gritty Talent, Ffilm Cymru, Go Connect, Rondo & Boom, Into Film ac RTS Cymru. Ydy, mae wedi bod yn bedair wythnos brysur!

Treuliais dau ddiwrnod llawn yng nghanolfannau asesu Academi Pobol a chynnal sesiynau ar ddiwedd pob tasg grŵp i hyrwyddo’r tudalen a chael rhywfaint o adborth gan y rhai ifanc gobeithiol. (Diolch byth roedd yr adborth yn frwdfrydig o gadarnhaol!)

Ymysg y gwaith allgymorth, rwyf wedi bod yn cael sesiynau mentora 1:1 gyda’r rhai sy’n dymuno cael rhywfaint o gyngor ac arweiniad ar sut i lywio’r diwydiant, cynnal eu hunain mewn cyfweliadau a llawer o help gyda’r CV.

Mae Lowri a fi bant i Fangor am ddau ddiwrnod llawn dop wythnos nesaf. Gyda’n pop-ups a hwdis ‘fresh-off-the-print’ wedi’u brandio, byddwn yn Ffair Gyrfaoedd Prifysgol Bangor lle byddwn yn lansio Siop Un Stop – One Stop Shop yn y Gogledd a byddwn yn ymweld ag Ysgol y Gogarth a’n cydweithwyr yn TAPE.

Byddwn yn ysgrifennu at yr ‘Indies’ yr wythnos nesaf i ddweud wrthynt am lansiad SUS-OSS a sut y gall fod o fudd iddynt yn ogystal â’r gymuned llawrydd a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant a fydd yn cael ei ddilyn gan ffyniant cyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau i ddilyn.

Mae’r dyddiadur eisoes yn edrych yn llawn ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr, gyda Ffair Gyrfaoedd CC, Diwrnod ‘Cwrdd i Ffwrdd’ Clystyrau BFI, Addysgu’r Addysgwyr, sesiynau ar gyfer Coleg Gwent a Chaffi Gyrfaoedd Creadigol yn Abertawe. Lledaeniad daearyddol iach hefyd!

Mae wedi bod yn bedair wythnos gadarnhaol iawn felly roeddem yn meddwl y byddech yn gwerthfawrogi ychydig o ddiweddariad ar sut mae pethau’n mynd, ble rydym ar hyn o bryd, a’r hyn rydym wedi’i gynllunio ar gyfer yr wythnosau i ddod!”

Byddwn yn lansio’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn swyddogol i gyd-fynd â’r wefan yn fuan felly dilynwch ar Facebook, Instagram ac X, yn barod am ein diweddariadau cyntaf!

Facebook: @SUSONESTOPSHOP

Instagram: @SUSONESTOPSHOP

X: @SUSONESTOPSHOP

Hefyd gwnewch nodyn o’r safle ei hun www.siopunstop-onestopshop.cymru – ac ewch draw i gael golwg o gwmpas!

Rydym yn gyffrous i gael yr adnodd hanfodol hwn ar waith fel y gall cwmnïau hyfforddi a darpar hyfforddeion elwa ohono.

Siop Un Stop-One Stop Shop yw Clwstwr BFI Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n cael ei redeg fel partneriaeth rhwng Sgil Cymru, Screen Alliance Wales a Cymru Greadigol. Rydym yn rhannu amrywiaeth enfawr o gyfleoedd gan gwmnïau ledled Cymru.