
Mae Sgil Cymru (mewn partneriaeth agos â Chymru Greadigol a Screen Alliance Wales) yn falch o lansio’n swyddogol eu hadnodd ar-lein newydd sbon ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau neu’n gweithio fel gweithwyr llawrydd yn y diwydiant.
Mae Siop Un Stop – One Stop Shop yn dod â darparwyr hyfforddiant, FE ac addysg uwch, calendr o ddigwyddiadau a chyrsiau a newyddion cyffredinol y diwydiant sgrin ynghyd ar un llwyfan cydlynol. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi gwasanaeth mentora ar gyfer cyngor ac arweiniad ar sut i symud ymlaen yn y diwydiant creadigol.
Ymwelwch â’r wefan nawr: www.siopunstop-onestopshop.com
Os ydych yn gwmni hyfforddi yng Nghymru, yn darparu cyfleoedd o fewn y Diwydiannau Teledu a Ffilm Cymreig gan gynnwys lleoliadau, digwyddiadau, cyrsiau a phrentisiaethau – anfonwch nhw atom trwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan.
Clwstwr Sgiliau BFI yng Nghymru yw’r adnodd hon a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Rydym yn annog pawb i wneud defnydd llawn ohoni. P’un a ydych yn newydd i’r diwydiant ac yn edrych i ddysgu, o fewn y diwydiant yn edrych i symud i fyny neu ar draws, neu arbenigwyr yn y diwydiant yn edrych i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd – mae’r wefan hon i bawb!
Dilynwch ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad ydych yn colli dim!