Diwrnod Blasu Hyfforddai Camera gyda NFTS!

Daeth NFTS Cymru Wales a Siop Un Stop-One Stop Shop ynghyd i gyflwyno Diwrnod Blasu Hyfforddai Camera’r wythnos diwethaf.

Roedd yn wych i gwrdd â phobl oedd yn newydd i’r diwydiant a’u gweld yn dysgu gan y cynorthwyydd camera Ash Leontyne!

Hwn oedd y cyntaf o lawer o ddyddiau blasu a bootcamps y bydd NFTS a Siop Un Stop-Un Stop yn eu darparu yn y misoedd nesaf!

Dyma cwpwl o luniau a thystebau o’r diwrnod:

“Roedd yn rhagori ar fy nisgwyliadau gan fy mod yn gallu bod yn ymarferol a dysgu pethau newydd.”Zac I

“Roedd yr hyfforddiant yn fuddiol iawn a dysgais lawer o wybodaeth werthfawr. Dysgais lawer o awgrymiadau a thriciau defnyddiol ar gyfer gweithio yn yr adran gamera a oedd yn bethau newydd i mi. Roedd y tiwtor yn barod iawn i helpu ac yn llawn gwybodaeth, gan rannu llawer o wybodaeth werthfawr ac roedd yn hawdd iawn ei dilyn.”Lauren F