I ddechrau’r flwyddyn newydd mae gennym newid cyfeiriad cyffrous ar gyfer ein podlediad ‘Pod y Prentis’. Trown y ffocws oddi wrth ein cyn-brentisiaid a thuag at siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol y diwydiant am gyfleoedd a recriwtio.
Yn y bennod gyntaf hon o 2025, mae Lisa Jarman yn siarad â Zoe Rushton (Mentor ar gyfer Siop Un Stop – One Stop Shop) a Hannah Williams (Cynghorydd Busnes i’r BBC) am y broses o ddod yn brentis gyda’r BBC, y cyngor a’r mentoriaeth sydd ar gael am ddim o siopunstop-onestopshop.cymru a’r gweminar ar Ionawr 8fed yn cael ei redeg gan Hannah i ateb unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio.
Archebwch lle ar y gweminar ar Ionawr yr 8fed nawr yma.
Os hoffech chi gysylltu gyda Zoe am gyngor ewch i wefan siopunstop-onestopshop.cymru a llenwch y dudalen cyswllt o dan ‘Mentor’.
Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify, neu ar ein tudalen YouTube yma.