POD Y PRENTIS: CRIW MADFABULOUS!

Y mis yma rydym yn sgwrsio gyda 3 o’n prentisiaid fu’n gweithio ar ffilm newydd ‘Mad As Birds’, ‘Madfabulous’. Cafodd y ffilm ei saethu yng Nghymru y llynedd. Lowri Thomas o Sgil Cymru sy’n dal i fyny gyda chyn-brentisiaid Fiorella Wyn Roberts ac Elin Glyn Jones a phrentis presennol CRIW Flo Baverstock am eu profiadau a’u hamser ar y cynhyrchiad. Roedd y prentisiaid hyn yn gweithio ar draws gwahanol adrannau; Gwisgoedd, Gwallt a Cholur ac yn yr Adran Gynhyrchu.

Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify, neu ar ein tudalen YouTube yma.

Bydd Prentisiaeth CRIW yn ol am 2025 yn y misoedd nesaf!