Pob lwc i’n prentisiaid CRIW, Jordan Williams a Jake Finch sydd wedi dechrau fel prentisiaid yn yr Adran Gelf ar ffilm gyda chwmni Tarian ar gyfer S4C. Byddant yn saethu yn ne a gogledd Cymru.
Dechreuodd prentis CRIW arall, Rachel Lewis, gyda’r Adran Lleoliadau ar gynhyrchiad Binocular Productions i Sky yn ddiweddar. Bydd Rachel ar y cynhyrchiad tan ddiwedd ei phrentisiaeth!