Mae ein prentisiaid CRIW yn y gogledd wedi bod yn brysur – dyma ychydig mwy o newyddion i chi!
Mae Tommy Harrop a Flo Baverstock yn dechrau gweithio gyda Mojo yfory ar raglen newydd i blant ar gyfer S4C, “Gwyliau”.
Mae Branwen Roberts wedi dechrau ers wythnos ar yr un cynhyrchiad yn yr Adran Gelf ac mi fydd Aaron Jones yn ymuno gyda nhw ar y 17eg o Chwefror gan ei fod yn gwario wythnos nesaf gyda Osprey TV ar raglen newydd i S4C.