
Mae’r Production Guild yn chwilio am Gyfrifydd Cynhyrchu neu Reolwr Ariannol sy’n nodi ei fod yn Fyddar, yn anabl, neu’n niwroddargyfeiriol i arwain rhaglen hyfforddi mewn Cyfrifeg Cynhyrchu Gynorthwyol. Bydd y cwrs yn benodol ar gyfer hyfforddeion Byddar, anabl neu niwroddargyfeiriol.
Os oes diddordeb gyda chi yn y rôl hon, neu am ragor o wybodaeth am ddyddiadau cwrs, ffioedd ac ymrwymiad amser, cysylltwch â Becky yn y Production Guild drwy e-bostio becky@productionguild.com neu ffoniwch 0203 427 4400.
Os hoffech gael y wybodaeth hon mewn unrhyw fformat arall, neu os hoffech drafod gofynion mynediad, rhowch wybod i’r Production Guild ar y manylion uchod.