Ffarwelio â’n prentisiaid CRIW yn ne Cymru 2024-2025

Yr wythnos hon fe wnaethon ni ffarwelio â Rachel, Morgan, Rob, Lewis, Millie, Mali, Jake a Jordan, sydd wedi bod yn rhan o deulu Sgil Cymru am y 12 mis diwethaf!  

Mae wedi bod yn bleser ac anrhydedd eu cael ar ein cynllun prentisiaeth CRIW ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt yn eu gyrfaoedd ffyniannus.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dal i fyny â nhw i glywed am y cynyrchiadau cyffrous y byddant yn gweithio arnynt, wrth iddynt gymryd y camau nesaf yn y diwydiant!  Cadwch lygad am ddiweddariadau!

Pob lwc gyda phopeth a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol!  Cofiwch, nid yw byth yn wirioneddol hwyl fawr yma yn Sgil Cymru ond ‘Hwyl am y tro’!