
Mae’n amser i rannu newyddion o’r gogledd!
Mae Aaron Jones wedi dechrau’r wythnos yma fel prentis yn yr Adran Gamera gyda Warner Bros Discovery ar gyfres cyfnod yn cael ei saethu yn y gogledd.
Mae Branwen Roberts a Tommy Harrop wedi bod yn gweithio ar yr un cynhyrchiad ers wythnos – Branwen yn yr Adran Gelf a Tommy yn yr Adran Gynhyrchu.
Mae Flo Baverstock hefyd yn gweithio ar yr un cynhyrchiad yn yr Adran Gwisgoedd ac wedi bod yna ers tair wythnos bellach!