
07 – 11 Gorffennaf 2025
Stiwdios Aria, Llangefni
Ar agor i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru dros 18 oed.
(Rydym yn annog ceisiadau gan griwiau camera sy’n gweithio yng ngogledd Cymru.)
Hyfforddiant ar 2 lefel:
- Hyfforddiant Tynnu Ffocws i’r rhai sydd yn Gynorthwyydd Camera yn barod
- Hyfforddiant fel Cynorthwyydd Camera i’r rhai sydd wedi bod yn rhedwyr/hyfforddai am o leiaf 2 flynedd.
Cynnwys y Cwrs:
- Cyflwyniad i rôl Tynnwr Ffocws
- Profiad ymarferol o gynorthwyo gweithredwr Jib
- Arweiniad ymarferol gyda Gaffer Goleuo
- Dysgu moesau set a sut i sefyll allan fel AC
- Saethu gyda chyfarwyddwr ag actorion ar set mewn stiwdio broffesiynol
Mae’r cwrs yma’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim!
Anfonwch ebost i Lowri@sgilcymru.com gydag ychydig o wybodaeth am eich gyrfa hyd yn hyn a CV cyn hanner dydd ar Fehefin 30ain 2025.
Mae’r Cwrs yma yn cael ei gynnig gan Siop Un Stop – One stop shop (Clwstwr sgiliau BFI yng Nghymru) gyda diolch i Rondo Media am eu Cydweithrediad.