Rhowch Groeso Mawr i CRIW yn y De 2025-2026!

Mae’n amser i ni groesawu ein prentisiaid newydd – CRIW yn y de, 2025-2026.

Mae’r criw cyfan wedi bod gyda ni yn Great Point Studios yng Nghaerdydd (lle mae swyddfa Sgil Cymru) dros y bythefnos ddiwethaf yn dechrau ar eu cymhwyster ac yn cael y cyfle i edrych o gwmpas stiwdios Bad Wolf a Dragon International Studios.

Mae’n bleser i groesawu Amelie Deere, Annabel Murphy, Armani Williams, Caitlin Puddle, Elliot Smith, Iwona Luszowicz, James Pritchard a Miriam Hughes.

Byddwn yn rhannu sgwrs gyda phob un ohonynt ar ddechrau eu prentisiaeth dros yr wythnosau nesaf ar ein cyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn rhannu newyddion o’r cynyrchiadau a’r cwmnïau maent yn cael mynd atyn nhw i weithio!