Prentis Ymchwilydd – Orchard

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        Orchard
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Ymchwilydd
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydlia

Mae Orchard yn fusnes cyfathrebu a chynnwys creadigol blaenllaw sy’n datrys problemau gydag atebion creadigol ac ymarferol. Er y gall y gystadleuaeth fod yn ffyrnig ym mhrifddinas Cymru, mae gan ein criw talentog o dros 70 o staff y sgiliau a’r profiad i greu argraff ac i ddod â syniadau’n fyw. Rydyn ni’n cynnig llwyth o wasanaethau yn Orchard, cymerwch gip ar ein gwefan i ddarganfod mwy! 

Disgrifiad Swydd 

Rydyn ni’n dymuno denu rhywun i rôl ddatblygol Ymchwilydd fel rhan o’n tîm Cynhyrchu. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn deall y diwydiant darlledu ac yn gallu dod â syniadau newydd i’r tîm. 

Sgiliau Allweddol: 

  • Dealltwriaeth o ddarlledu digidol a thraddodiadol gyda syniad o’r hyn y mae’r darlledwyr yn chwilio amdano. 
  • Dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud cynnwys gwych ar deledu ac ar y we. 
  • Rhywun sydd ddim yn ofni wynebu her. Y gallu i ymdrin â’r broses gomisiynu yn effeithlon gan ddeall y gall hyn gymryd amser. 
  • Y gallu i ysgrifennu’n greadigol i lunio cynigion teledu clyfar o’r radd flaenaf. 

Sgiliau Dymunol:

  • Siarad Cymraeg yn rhugl – yn gyfforddus i gyfathrebu â chleientiaid yn y Gymraeg 
  • Meddu ar drwydded yrru lawn a glân

Fframwaith

Tra’n gweithio i Orchard byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cyflog

Cyflog i’w gadarnhau – yn ddibynnol ar brofiad.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol, ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i wneud cais

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais.

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglen brentisiaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

14.00 ar y 23ain o Orffennaf, 2019