LEFEL 3 (CYFRYNGAU CREADIGOL A DIGIDOL)


Dechreuodd prentisiaethau cyntaf Sgil Cymru mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol ym mis Gorffennaf 2015.

Yn ogystal â hyfforddi gyda Sgil Cymru yn Stiwdio Pinewood Cymru yng Nghaerdydd, mae’r prentisiaid wedi gweithio mewn nifer o rolau gwahanol – gan gynnwys camera, ôl-gynhyrchu, castio, adran gelf, gwisgoedd, cynhyrchu, dylunio graffeg ac effeithiau arbennig

Ymysg y cwmniau sydd wedi cynnig cyfleoedd dros y blynyddoedd diweddar mae BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Cardiff Theatrical Services a Real SFX, sydd wedi ennill gwobrau fel cyflogwyr prentisiaid, Sports Media Services, Fiction Factory ac Orchard.

Mae pob un o’r prentisiaid yn derbyn lwfans prentis gan eu cyflogwr, yn cael gweithio ar wir gynyrchiadau a byddant yn cwblhau’r brentisiaeth gyda chymhwyster, blwyddyn o brofiad gwaith go iawn yn y cyfryngau yn ogystal a llond trol o gysylltiadau allai fod yn ddefnyddiol i gael gwaith yn y dyfodol.

Prentisiaeth Lefel 3 yw hon, sy’n cyfateb i Lefel A.  Mae’n bosib i unrhywun sy’n 16+ ar ddechrau’r cwrs ymgeisio. Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

Cofia – mae’n bosib mynd i Brifysgol neu Goleg ar ôl cwblhau Prentisiaeth.  Ond nid swydd haf yw Prentisiaeth, mae’n ymrwymiad 12 mis o hyd.

Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Gwnaed y prosiect yma’n bosib drwy Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.

Apprentice Footer