Prentis Cynorthwy-ydd Cyfathrebu – Equinox

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                         Equinox
Rôl Prentisiaeth:       Prentis Cynorthwy-ydd Cyfathrebu
Lleoliad:                       Caerdydd

Am y Sefydliad

Equinox logo_no strapEquinox yw un o’r asiantaethau cyfathrebu mwyaf blaenllaw yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth llawn. A ninnau wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym wedi bod ar flaen y gad ers 1996, gan ddarparu ymgyrchoedd sydd wedi ennill gwobrau mewn mwy na 22 o sectorau diwydiannol gwahanol. Rydym yn dîm clos o unigolion bywiog sy’n llawn o angerdd dros yr hyn a wnawn, a thros y rhai y gweithiwn drostynt.

Mae ein harbenigedd yn cynnwys ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol; perthynas â’r cyfryngau traddodiadol; pynciau llosg a rheoli argyfwng; materion cyhoeddus a lobïo, yn ogystal â dylunio a chynhyrchu a hyfforddiant cyfathrebu proffesiynol. Daw ein cleientiaid o drawstoriad eang o sectorau gan gynnwys twristiaeth, lletygarwch a threftadaeth; eiddo, adeiladu ac adfywio, manwerthu a hamdden, elusennau a’r sector nid er elw.

Disgrifiad Swydd

Mae hwn yn gyfle ar gyfer rhywun sydd eisiau cael eu profiad cyntaf o yrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfryngau digidol.

Equinox yw un o asiantaethau cyfathrebu mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae bob amser yn brysur gyda llawer o gleientiaid proffil uchel.

Mae’ asiantaeth angen Prentis Cynorthwy-ydd Cyfathrebu i gefnogi’r tîm presennol.

Diben y swydd:

I gynorthwyo yn y gweinyddu a rheoli cyffredinol yn Equinox i gleientiaid presennol a darpar gleientiaid,  gan sicrhau bod y safonau uchaf o ragoriaeth yn gweithredu systemau cyffredinol yn digwydd o ddydd i ddydd.

Egwyddor atebolrwydd:

  • Tra’n gweithio o fewn tîm Equinox, helpu i reoli y dydd i ddydd yn y swyddfa gan sicrhau ymateb cyflym i holl ymholiadau, gyda’r lefelau uchaf posibl o broffesiynoldeb.
  • Yn gyfrifol am holl dorion adroddiad a gweithgarwch yn y cyfryngau i uwch reolwyr a/neu gleientiaid, yn ogystal â chyfrifoldeb ar gyfer detholiad o gyfrifon allweddol, gan sicrhau y lefelau uchaf o wasanaeth.
  • Helpu i drefnu cyfarfodydd, cynadleddau i’r wasg, swyddogaethau lletygarwch a digwyddiadau cysylltiadau cyhoeddus eraill ar ran cleientiaid amrywiol.
  • Cynorthwyo a chefnogi y rheolwr aml-gyfrwng drwy weithio ar gynhyrchiadau fideo, animeiddio a CGI.
  • Gweithio fel rhan o dîm Equinox ac o fewn y rhaglen a Strategaeth Rheoli cytunedig, gweithredu ymgyrchoedd penodol o fewn Cymru sy’n anelu at helpu i gyflawni amcanion busnes ar gyfer codi proffil ei gleientiaid.
  • Helpu neu reoli cyfrifon cleientiaid fel y cyfarwyddwyd gan arweinwyr tîm.
  • Cynnal perthynas waith di-dor gyda chydweithwyr eraill Equinox, cyflenwi gwyliau fel y bo’n briodol, er mwyn sicrhau fod y busnes yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol.

Gofynion gwybodaeth, profiad a sgiliau ar gyfer perfformaid swydd dderbyniol:

  • Safonau uchel o addysg gyffredinol
  • Sgiliau sefydliadol a gweinyddol da
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, llafar ac ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth o dechnegau PR modern, marchnata, y cyfryngau cymdeithasol a phwysigrwydd gwerthuso
  • Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel o fewn Equinox a gyda phartïon trydydd parti
  • Gwaith tîm a sgiliau rhyngbersonol ardderchog
  • Lefel uchel o hunan-gymhelliant gyda’r gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosib
  • Byddai’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Cysylltiadau gwaith:

  • Cyfarwyddwyr, rheolwyr a staff eraill Equinox
  • Cyflenwyr Equinox
  • Newyddiadurwyr ledled Cymru a’r DU
  • Cymheiriaid mewn sefydliadau allweddol
  • Ymgymhoriaethau PR, marchnata, hysbysebu, fideo a dylunio, fel sy’n ofynnol
  • Cysylltiadau cleient, argraffyddion a chyflenwyr o eitemau hyrwyddo, ffotograffwyr a phersonél digwyddiad

Dyletswyddau penodol:

  • Torion – gwerthusiadau darllediadau cyfryngau cleient
  • Ateb ffonau/cymryd negeseuon
  • Ateb drws/gwneud lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd
  • Darllen papurau dyddiol a sganio ar gyfer newyddion cleient
  • Rheoli digwyddiadau calendr/ymchwilio diwrnodau ymwybyddiaeth a digwyddiadau
  • Ymchwilio rhestrau nodweddion
  • Diweddaru gwefannau cleient â datganiadau i’r wasg
  • Ysgrifennu datganiadau i’r wasg
  • Cysylltu a’r cyfryngau
  • Rheoli galwadau ffotograffiaeth
  • Helpu gyda cyfryngau cymdeithasol – Facebook/Twitter/Pinterest/Google + ac ati
  • Ymchwil ar gyfer costau ac ati
  • Rheoli sianelau gwefan a chyfathrebu yn Equinox
  • Cynhyrchu ffilmiau
  • Golygu fideo a phrawfesur
  • Gwaith Photoshop

Am fwy o wybodaeth am Equinox,yr asiantaeth, y tîm a’n gwaith cliciwch yma.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Equinox byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.