Tom o Sgil Cymru yn TIFF

Mae Tom, sy’n rhedeg ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol, nawr yn byw yng Nghanada. Am y fis diwethaf mae e wedi bod yn gweithio i TIFF – Toronto International Film Festival.

Llwyddodd e i weld 9 ffilm yn cynnwys 2 ffilm wedi’u cyllido gan Ffilm Cymru Wales – ‘Chuck Chuck Baby’ a ‘Unicorns’. Roedd 2 o brentisiaid Sgil Cymru wedi gweithio ar ‘Chuck Chuck Baby’ yn ogystal a Lowri Thomas, ein rheolwr prosiect yn y gogledd! Mae Sgil Cymru ymhobman!

Dyma fideo am brofiad Tom yn yr wyl!