Adborth gan Reolwyr Cynhyrchu Newydd eu Hyfforddi

Production Manager Course

Mae’r ail o dri chwrs newydd hyfforddiant ffilm Sgil Cymru, wedi dod i ben yn Pinewood Studio Cymru. Yn ystod y pythefnos o gwrs fe fu’r hyfforddeion yn torri lawr sgript, cyn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd Cyllideb ac Amserlennu Movie Magic, a chwrdd ac amrywiaeth o siaradwyr o’r diwydiant wnaeth rannu eu gwybodaeth helaeth am y diwylliant, o faterion logistaidd fel Yswiriant a Chliriadau, i elfennau mwy ymarferol o reoli ffilm Hollywood gyda chyllideb o filiynau o ddoleri, mewn stiwdio yn y DU.

 

Dyma beth roedd gan rai o’r hyfforddeion i ddweud am eu profiad:

“Gwnaeth Sgil Cymru bopeth i’n dysgu ac annog yn yr elfennau ymarferol o weithio mewn adran gynhrychu. Mae hi wedi bod yn bythefnos wych.”

“Roedd hi’n anhygoel, yr holl wybodaeth a dealldwriaeth o’r diwydiant oedd ar gael i ni yn Sgil Cymru dros y pythefnos.”

 

“Cwrs gwych. ‘Dwi wedi dysgu cymaint dros y pythefnos diwethaf. Dwi’n teimlo’n llawer mwy hyderus i fynd mewn i swydd cynhyrchu ers mynychu’r cwrs. Dysgais i gymaint o bob siaradwr gwadd.”

“Popeth yn ddefnyddiol iawn, wedi rhedeg gan dim hyfryd. Gwerth gwych o’r arian dalwyd”

“Bendigedig!”

 

Mae’r cwrs wedi’i gefnogi gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, gyda chronfa’r Loteri Genedlaethol – BFI Film Forever.

Mae ceisiadau ar gyfer y cynllun nesaf i griw sydd yn gobeithio gweithio mewn Rheoli Lleoliadau ar agor nawr. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.