Mae Sgil Cymru yn chwilio am gyflogwyr ar gyfer ei gynllun Lefel 3 Prentisiaethau Ar Y Cyd. Bydd y rhaglen lefel 3 yn para am 12-mis ac yn ddechrau ym mis Chwefror 2020.
Mae Prentisiaeth Ar Y Cyd yn gyfle ardderchog i bobl ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symyd o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad.
Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3: Mae’r brentisiaeth yma yn addas ar gyfer cwmnïau sy’n chwilio i gyflogi rhywun yn yr adrannau canlynol: Adran Gynhyrchu, Adran Gwisgoedd, Adran Gelf ac Adran Gwallt & Colur.
Am ddysgu mwy am sut i gyflogi prentis cyfryngau gyda Sgil Cymru? Cysylltwch â’r tîm ar help@sgilcymru.comneu ar 07843 779 870.