Am Weithio i Sgil Cymru?

Rydym yn chwilio am Brentis Cynorthwy-ydd Tîm dwyieithog i ymuno â’n tîm prysur yn Sgil Cymru, i ddarparu gwasanaeth cefnogol effeithiol i’r staff a darparu gwasanaeth i gleientiaid sy’n mynychu cyrsiau Sgil Cymru. Bydd y rôl yn amrywio, gan gynnwys dyletswyddau gweinyddol, cynorthwyo mewn digwyddiadau/cyrsiau hyfforddi a darparu cefnogaeth i’r Swyddog Hyfforddi a Marchnata.

Tra’n gweithio i Sgil Cymru byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.

Dyddiad cau: 0900 Dydd Mercher y 13eg o Fehefin 2018.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio.