Mae un o’r prentisiaid lefel 4 Hysbysebu a Marchnata Sgil Cymru yn esbonio popeth am ei thaith fel prentis a pham nad oedd prifysgol yn siwtio hi. Gweithiodd Chloe Mae Johnson o Gasnewydd fel Prentis Digwyddiadau ac Cynorthwy-ydd Prosiectau gyda Amplified Business Content a chwblhaodd ei phrentisiaeth drwy Sgil Cymru.
Cyn ei phrentisiaeth roedd Chloe wedi gorffen ei lefelau A a wrthi’n meddwl am beth ddylai’r cam nesaf yn ei bywyd fod. Fel llawer o bobl ifanc roedd Chloe angen gwneud y penderfyniad rhwng gweithio’n llawn-amser, mynychu prifysgol neu ymgeisio am brentisiaeth.
Dywedodd Chloe:
Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig ac yn ddryslyd am y cam nesaf i fynd yn fy mywyd. Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am wneud. Roedd fy ffrindiau i gyd eisioes wedi cael eu derbyn i mewn i Brifysgol ac roedd amser yn rhedeg allan yn gyflym i fi. Roedd y ffaith oeddwn ni gorfod dewis llwybr gyrfa, a fydd yn newid fy mywyd, yn 18 oed yn rhoi llawer o bwysau arnai …
Drwy lawer o waith ymchwil, nes i sylwi ar yr opsiwn o Brentisiaeth. Doeddwn i ddim erioed wedi meddwl am edrych i mewn i Brentisiaethau, gan fy mod bob amser yn meddwl yn unig am swyddi plymio neu beirianneg ar gael trwy gynllun Prentisiaeth. Pa mor anghywir oeddwn i?
Trwy ei phrentisiaeth wnaeth Chloe weithio ar 3 digwyddiad, 2 seremoni gwobrwyo, hedfan rhwng Llundain a Chaerdydd i weithio ac mae wedi bod mewn cysylltiad efo swyddfa Lord Sugar.
Dywedodd Chloe:
Ni allaf ddiolch Sgil Cymru digon am eu hanogaeth barhaus ac ymroddiad, ac i’r holl bobl sydd wedi helpu fi drwy fy daith hyd yn hyn.