PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Eugenia nawr ac i glywed am brofiad Eugenia, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru
Enw: Eugenia Taylor
Oedran: 22
O: Caerdydd
Cyflogwr Prentis: ITV Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis: Prentis Cyfryngau Creadigol a Digidol
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn gweithio fel marchnatwraig ar-lein yn Escentual.com, sef safle manwerthu ar-lein ar gyfer cynhyrchion harddwch. Roeddwn i’n gweithio yn y maes manwerthu ers pan o’n i’n 16 oed, hyd at y diwrnod dechreuais i weithio I ITV.
Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Roeddwn i’n chwilio am swydd achos benderfynais i ‘mod i am adael y byd manwerthu a dechrau gyrfa newydd. Roeddwn eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac mae gen i ddiddordeb mawr erioed mewn teledu, ffilm a’r cyfryngau felly meddyliais byddai prentisiaeth yn ITV yr union beth roeddwn yn edrych amdano, a’r her berffaith.
Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?
Roedd y swydd yn amrywiol iawn. O’r dechrau un, cefais fy nhaflu mewn i ddysgu am swyddi Arbenigwyr Cynhyrchu, fel Cynorthwyydd Cynhyrchu, Sain, Autocue, Rheolwr Stiwdio a Gweithredwr Camera Stiwdio ar gyfer bwletinau newyddion amser cinio a chwech o’r gloch. Cefais y dasg hefyd o greu fy fideos ar-lein fy hun, gan roi cyfle i mi ddysgu sut i olygu gan ddefnyddio AVID, a deall sut i osod camera ar gyfer cyfweliad. Galluogodd hyn i fi ddeall pa fath o siots sydd eu hangen i greu rhediad syml.
Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?
Cefais y cyfle i weithio o fewn yr adran raglenni, a chysgodi un o’r cynhyrchwyr wrth iddi wneud cyfres dair rhan o’r enw “Station 20”, oedd yn dilyn hynt a helynt gorsaf dân yn y Bari. Gosodais y camera ar gyfer rhai o’r cyfweliadau, a sicrhau hefyd fod y person o fewn y ffrâm trwy gydol y cyfweliad.
Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?
Roedd ceisio cadw cydbwysedd rhwng swydd llawn amser ac aseiniadau ar gyfer y brentisiaeth yn anodd ar brydiau. Fodd bynnag, drwy gwblhau’r gwaith gartref cyn gynted â phosib neu yn ystod cyfnodau tawel, llwyddais i ddod i ben â phopeth.
Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?
Pan wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn i eisoes yn gweithio ers tri mis yn fy rôl newydd fel ymchwilydd dan hyfforddiant, ar un o gomisiynau rhwydwaith newydd ITV Wales. ‘Roedd yn dipyn o sioc gan i mi gael llawer o gyfrifoldeb yn gyflym iawn o’i chymharu â’r brentisiaeth, ble doeddwn i ddim ond yn cysgodi ac yn dysgu.
Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Yn ddi-os, helpodd hyn fi i dyfu a dysgu bod yn hyblyg. Roeddwn yn falch iawn fod y newid hwn wedi digwydd yn ystod, ac yn fuan wedi fy mhrentisiaeth, gan ‘mod i’n cael cefnogaeth gyson gan y tiwtoriaid yn Sgil Cymru, yn ogystal â fy rheolwraig yn ITV. Roedd hi’n ymwybodol o fy mhwysau gwaith a chefais i gyfarfodydd rheolaidd gyda hi a gyda Nadine, fy mentor Sgil Cymru.
Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Hoffwn ddatblygu fy sgiliau ymhellach, gan obeithio parhau â hyfforddiant camera, yn ogystal â chael mwy o brofiad newyddiadurol fel ymchwilydd. Dwi eisiau parhau i weithio gyda’r adran raglenni yn ITV a byddwn wrth fy modd bod yn Gynorthwyydd Cynhyrchu un diwrnod, a chynhyrchu fy rhaglen fy hun.
DIWEDDARIAD GWANWYN 2022
Mae Eugenia erbyn hyn yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol i ITV Cymru Wales.
Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?
Roeddwn i gyda ITV Cymru Wales a gwnes i brentisiaeth cyfryngau Creadigol a Digidol.
Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?
Sylweddolais fy mod yn y lle iawn pan oedd mynd i’r gwaith bob dydd yn hwyl ond yn her hefyd. Roedd pawb gan gynnwys fy rheolwr, Nadine a Sue o Sgil Cymru mor gefnogol ac yn awyddus i fy helpu bob cam o’r ffordd. Sylweddolais yn fuan fod gennyf gariad at yr adran raglenni yn ogystal â newyddiaduraeth a phan welodd fy rheolwr yr angerdd hwn, caniataodd i mi aros yn yr adran am ran helaeth o’m prentisiaeth. Gadawodd yr holl gynhyrchwyr i mi eu cysgodi, mynd allan ar leoliad gyda nhw a fy annog i ddysgu cymaint â phosibl.
Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?
Ar ôl fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd fel ymchwilydd/cynorthwyydd rhaglen yn gweithio ar raglenni rhanbarthol a rhwydwaith yn ITV Cymru. Ond mae’n debyg mai fy rhwystr mwyaf oedd gwneud fy hyfforddiant newyddiaduraeth yn ITV, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Fe wnes i hynny yn ystod y pandemig ac felly roedd llawer o ddysgu adref ac ar-lein. Rwy’n ddysgwr eithaf ymarferol felly roedd methu â mynd i’r swyddfa yn anodd iawn ac roedd y flwyddyn hyfforddi ei hun yn gam mawr ymlaen i mi. Roedd yn rhaid i mi wneud arholiad NCTJ yn ogystal â dysgu nifer o wahanol sgiliau newyddiadurwr cynhyrchu er mwyn gorffen yr hyfforddiant. Ond rwy’n meddwl bod fy mhrentisiaeth wedi fy mharatoi ar gyfer yr her oherwydd roeddwn bob amser yn dysgu rhywbeth newydd felly rhoddodd yr hyder i mi wybod fy mod yn gallu neud y swydd. Ac wrth gwrs, roedd cefnogaeth pawb yn ITV Cymru yn anhygoel felly fe wnaeth fy sbarduno i wneud y gorau o’r sefyllfa.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?
Y cyngor gorau a gefais oedd gan Nadine a Sue sef gwneud y mwyaf o’r flwyddyn. Cymerais y cyngor hwnnw o ddifri, a drïes i gydio ym mhob cyfle a gefais i ddysgu rhywbeth newydd. Fe wnes i ymdrech hefyd i wneud cysylltiadau. Felly, os oedd rhywun yn cymryd yr amser i ddangos rhywbeth i mi, byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn barchus ac yn garedig ac felly os oeddwn erioed angen cymorth neu eisiau gofyn cwestiwn yn y dyfodol, roeddwn yn teimlo y gallwn fynd at y person hwnnw eto am eu harbenigedd.
Rwy’n meddwl heb arweiniad pawb yn Sgil Cymru byddwn i wedi bod ar goll yn ystod fy mhrentisiaeth.
Ond fe wnaethon nhw hefyd ein hatgoffa ni pa mor bwysig oedd hi i gadw i fyny â gwaith ysgrifenedig a thasgau eich prentisiaeth. Felly roeddwn bob amser yn gwneud ymdrech i’w chwblhau cyn gynted â phosibl ag o’r safon orau. Gadawodd hynny fwy o amser i mi wneud y swydd yn ITV ac roeddwn yn gallu canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd oherwydd doeddwn i ddim yn poeni am fy ngwaith arall.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?
Peidiwch â bod ofn rhoi eich hun allan yna ag i wthio eich hun i brofiadau newydd. Os oes gennych chi awr ychwanegol yn y dydd, allwch chi ddefnyddio’r awr honno i gynnig syniad newydd, neu helpu rhywun sydd â llwyth o waith i gyflawni? Gall y flwyddyn hedfan heibio, ond mae pawb eisiau eich helpu i ddysgu, felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a dangos pa mor angerddol ydych chi am y swydd.