Croesawodd Sgil Cymru Howard Colin, Cynorthwy-ydd Camera profiadol, fel hyfforddai ar y cynllyn Camu Fyny 2017.
Yn 2012 dechreuodd Howard ei yrfa trwy weithio i dŷ rhentu camerau lle cafodd y cyfle i afael ar amrywiaeth o offer camera. Yn dilyn hyn symudodd i fod yn llawrydd trwy weithio yn yr adran camera ar amryw o gynyrchiadau drama Cymraeg.
Dwedodd Howard:
Mae’n daith hir trwy geisio dysgu’r holl offer wahanol a sut i gael y gorau allan o’r offer ar gyfer y cynhyrchiad.
Swydd Howard o fewn yr adran camera ydy Cynorthwy-ydd Camera. O ddydd i ddydd mae ei waith yn amrywio, yn dibynnu ar y cynhyrchiad.
Dwedodd Howard:
Gall fy ngwaith o ddydd i ddydd amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad, ond mae’r cyfrifoldebau craidd yn cynnwys sicrhau bod y camera wedi cael ei lwytho (gyda cherdyn cof) ac yn barod i saethu. Er mwyn gwneud hyn mae yna nifer o ffactorau sydd angen eu hystyried gan gynnwys: sicrhau bod yr holl git yn cael eu rheoli’n gywir ac mae gennym y pethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y siot neu’r olygfa. Mae yna amryw o bethau sy’n gallu arafu cynhyrchiad felly mae angen ragweld rhain er mwyn eu hosgoi. Er enghraifft, gall symud o leoliad allanol oer i leoliad mewnol cynnes achosi lensys i ymgolli â chyddwyso. Mae’n bwysig meddwl ymlaen a mynd â’r lensys i’r lleoliad i gynhesu cyn i’r saethu ddechrau.
Dim ond un enghraifft yw hynny, ond mae yna amryw o sefyllfaoedd all godi. Fy nghyfrifoldeb yw gweithio gyda’r Ysgogwr Ffocws (Cynorthwy-ydd Camera 1af) i sicrhau gweithrediad llyfn y camera.
Trwy cymryd rhan mewn Camu Fyny symydodd Howard i weithio ar raglennu teledu o safon uchel yng Nghymru.