Nicola Webley

Bu Nicola Webley, o’r Barri, yn gweithio yn y theatr am bymtheng mlynedd fel rhan o’r Adran Wisgoedd.

Penderfynodd Nicola ei bod yn bryd symud cartref i Gymru ac roedd yn edrych ar sut y gallai ddechrau gweithio mewn gwisgoedd yn y byd teledu. Diolch i’r cynllun ‘Camu Fyny’, cafodd Nicola gyfle i gysgodi’r Adran Wisgoedd ar Casualty, dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:

Beth mae eich gwaith o ddydd i ddydd yn ei cynnwys?

Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys dechrau cynnar gwallgof! Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod unrhyw ddillad yn barod ar gyfer y diwrnod i ddod a bod popeth wedi’i sychu, ei stemio ac yn barod i fynd. Yna byddwn yn eistedd i lawr gyda’n gilydd a thrafod y diwrnod, fel hyn gallwn nodi unrhyw newidiadau gwisgoedd. Unwaith y bydd yr actorion yn dechrau cyrraedd, byddan nhw’n gwisgo’u hunain a chyn iddyn nhw fynd ar set, byddwn ni’n sicrhau bod pob actor yn edrych y ffordd rydyn ni eisiau / angen iddyn nhw edrych ar gyfer y ffilmio. Rwyf wedi cael rhyddid i fynd ymlaen yn benodol a chyfeirio at y gronfa ddata dilyniant  sydd wedi bod yn ddiddorol iawn. Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni’n sicrhau bod yr holl wisgoedd yn cael eu rhoi yn ôl yn eu lle ac yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf o ffilmio. Weithiau, efallai, bydd yn rhaid i mi fynd i’r siopau gwisgoedd os oes angen unrhyw beth Newydd  arnom.

Pa brofiad diwydiant oedd gennych chi eisoes?

Rwyf wedi gweithio yn y theatr ers pymtheng mlynedd. Am yr un ar ddeg mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio fel Pennaeth Gwisgoedd yn y Donmar Warehouse. O ran profiad ar setiau teledu a ffilm, doedd gen i ddim.

Pa mor wahanol ydy gweithio ar set deledu o’i gymharu â gweithio ym myd y theatr?

Mor wahanol! Yn y theatr, dim ond dau ohonom oedd yn gweithio yn yr adran gyfan ac roeddem yn gyfrifol am wisgoedd, gwallt a cholur. Wrth gwrs, ar set, rwy’n dal i roi gwisgoedd ar actorion, gan sicrhau eu bod yn gweddu ac ati. Hefyd, mae theatr yn cael ei yrru gan fympwy’- rydych chi’n gweithio’n gyflym iawn ac mae’r adrenalin yn gryf. Mae amser i stopio ar set – os yw actor ymlaen ar y  llwyfan ac mae problem gyda’r wisg, mae’n rhaid iddyn nhw barhau – does dim amser i stopio. Ond  gallwch faddau i  lawer mwy yn y theatr hefyd. Rwyf wedi dysgu, gyda ffilmio, bod angen i wisgoedd fod yn benodol iawn i gyd-fynd â’r set ac actorion eraill – er enghraifft, mae’r lliwiau y mae actor yn eu gwisgo ar set yn bwysig iawn.

Sut ydych chi’n gobeithio y bydd y cynllun ‘Camu Fyny’ yn helpu i ddatblygu eich gyrfa?

Mae wedi fy nhaflu i ddylunio mwy o wisgoedd. Rwy’n gobeithio y bydd yn fy helpu i ddod yn fwy creadigol. Rydw i wedi cynorthwyo digon o ddylunwyr yn y theatr i fod yn synhwyrol felly rydw i’n defnyddio’r profiad hwnnw i’m helpu gyda’r cynllun. Doeddwn i ddim wedi clywed am y cynllun Camu Fyny nes i mi gyfweld ar gyfer Swydd Iau y llynedd ond dywedwyd wrthyf fod gen i ormod o brofiad mewn gwisg theatr ond, dim  yn y byd teledu. Fe wnes i gysylltu â’r BBC eto i ddweud y byddwn i’n gadael Llundain i symud yn ôl i Gymru a fy mod i’n wirioneddol awyddus i ddechrau gweithio ar set, dyma’r tro cyntaf i mi glywed am Camu Fyny, felly es i amdani. Dywedwyd wrthyf ei bod yn dda iawn dod o hyd i Gymraes sydd eisiau gweithio nol yng Nghymru felly mae hynny wedi bod yn dda i glywed.

A fyddech chi’n argymell y cynllun Camu Fyny?

100%! Byddwn yn bendant yn ei argymell. Mae pawb yn yr adran wisgoedd wedi bod yn dweud bod y cynllun yn anhygoel. . Mae’n gynllun mor hael, ac mae’n hyfryd gweld sut mae Sgil Cymru yn gwneud eu gorau dros y diwdiant.  Mae hefyd yn braf gweld cynllun sydd ar gael yng Nghymru i’r diwdiant yng Nghymru.  Diolch! Mae’r cynllun yn anhygoel

Os hoffech chi ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cynllun Camu Fyny, cliciwch yma.