Cwblhaodd Osian Davies, 20 o Glan Conwy, Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 gyda Sgil Cymru nol yn Haf 2016. Gweithiodd Osian fel Prentis Cynhyrchu yn yr adran ffeithiol yn BBC Cymru Wales yn Llandaf. Ers gorffen ei brentisiaeth mae Osian wedi parhau i weithio o fewn yr adran ffeithiol yn BBC Cymru Wales. Dyma ei stori.
Cyn ei brentisiaeth cyfryngau roedd Osian yn astudio ei Lefelau A wrth weithio mewn bwyty gwesty yng Ngogledd Cymru.
Dwedodd Osian:
Pan ddechreuais astudio fy Lefelau A roeddwn i’n meddwl fy mod i eisiau bod yn berfformiwr. Yn fuan iawn sylweddolais nad oeddwn i eisiau fod yn berfformiwr ond o’n i eisiau gweithio tu ôl y camera. Yn ogystal â hyn doeddwn i ddim eisiau mynychu prifysgol oherwydd nid wyf yn gweld fy hun fel person academaidd ac mae gwell gen i ddysgu wrth weithio. Yn dilyn hyn, dechreuais chwilio am brentisiaethau cyfryngau a theatr a nes i ddod o hyd i’r Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3.
Yn dilyn ei benodiad fel Prentis Cynhyrchu Ffeithiol dechreuodd Osian weithio ar raglenni The One Show, BBC Young Musician, X-Ray, Bargain Hunt a Coast.
Cafodd Osian y cyfle i gwblhau amrywiaeth o dasgiau wrth gwblhau ei brentisiaeth gan gynnwys gwaith ymchwilio ar The One Show. Gwnaeth y gwaith ymchwilio golygu bod angen i Osian ffeindio storïau, cyfranwyr, lleoliadau ac archif ar gyfer y saethu. Yn ogystal â hyn roedd angen i Osian gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwyr, Cynorthwywyr Rheoli Cynhyrchiad a Chynhyrchydd y Gyfres er mwyn mynd a’r stori o’r dechrau i’r darllediad. Wnaeth swydd Osian newid o ddydd I ddydd a symudodd Osian o gwmpas gwahanol cynyrchiadau er mwyn cael profiadau gwahanol.
Dwedodd Osian:
Cefais y siawns i ofalu ar ol y cystadleuwyr a’r barnwyr ar BBC Young Musician, cadw trefn ar offer camera a helpu setio fe lan ar leoliad gyda X-Ray yn ogystal â chysgodi’r rhedwr ar Bargain Hunt a’i helpu gyda galwadau castio ac ar leoliad.
Yn dilyn ei flwyddyn fel prentis cafodd Osian swydd fel Rhedwr ar Bargain Hunt. Ers hynny mae Osian wedi parhau i weithio o fewn BBC Cymru Wales ar gynyrchiadau eraill yn cynnwys The One Show ac mae e nawr yn gweithio fel Ymchwilydd Castio ar Bargain Hunt.
Dwedodd Osian:
Wnaeth y brentisiaeth fy ngalluogi i ddangos fy mhotensial gwirioneddol. Fe roddodd fwy o hyder i mi a’r hyfforddiant a’r profiad ymarferol yr oeddwn ei angen.
DIWEDDARIAD GWANWYN 2022
Mae Osian nawr yn Gynorthwyydd Technegol ac yn Weithredwr Drôn ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r BBC.
1.Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?
Fy lleoliad gyntaf oedd yn yr adran ffeithiol ar The One Show gyda’r VT Team yng Nghaerdydd. Ar y pryd, BBC Cymru ond erbyn hyn, BBC Studios. Wnes i helpu hefo ymchwilio fewn i straeon a helpu paratoi y cit ar gyfer saethu’r straeon.
2.Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?
Ar fy lleoliad gyntaf hefo’r One Show i ffilmio’r stori wnes i setio fyny yng Nghaerfaddon ar y Box Tunnel. Fe wnes i ddysgu sut oedd y cit yn gweithio a chyfarfod a phobl oedd eisiau rhannu eu storiâu nhw. A dyna y foment wnes i sylweddoli fy mod eisiau neud gwaith camera. Gofynnwyd i mi gasglu golygfeydd cyffredinol (GVs) ar gyfer ffilm arall. Yn yr ystafell olygu, roedd y cyfarwyddwr mor hapus hefo fy ngwaith, roeddwn i’n gwybod mae gwaith camera roeddwn eisiau wneud yn y dyfodol.
3.Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?
Dwi’n meddwl y peth mwyaf dwi wedi goresgyn yw ffeindio fy hunan hyder i wneud y swydd a chredu yn fy hun. Mae’n hawdd yn y diwydiant yma i golli hyder neu i ail feddwl be ti’n neud, yn enwedig wrth edrych ar waith bobl eraill a’r safon maen nhw’n disgwyl o’r gwaith.
4.Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?
‘Just do it’. Os wyt ti eisiau gweithio gyda’r camera, cymer luniau neu ffilmia dy stwff dy hun yn dy amser sbâr.
5.Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?
Gwrandewch ar y bobol o’ch cwmpas chi ar leoliad. Mae pawb eisiau helpu ac eisiau i chi lwyddo. Os oes gennoch chi gwestiwn neu chi ddim yn deall rhywbeth, peidiwch fod ofn gofyn, mae pawb yn deall eich bod chi yna i ddysgu.