Simon Guy

Fy enw i yw Simon Guy ac rwy’n gyn-Brentis Camera gyda Sgil Cymru. Y dyddiau hyn rwy’n weithredwr Camera llawrydd yn gweithio ar wahanol fathau o gynyrchiadau.

 

Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda BBC Cymru yn gweithio ar ‘Casualty’ ac yna ‘Pobol Y Cwm’. Bryd hynny roedd fy nyletswyddau’n cynnwys ceblau a batris, a gwnes yn siŵr fy mod yn gwneud y gwaith yn dda. Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd cynorthwyydd camera llawn amser ar gyfer ‘Pobol Y Cwm’. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dysgais bwysigrwydd sgiliau trefnu a sut i weithio gyda phobl; roedd pob un bloc ffilmio yn wahanol i’r un nesa gyda chyfarwyddwyr, gweithredwyr camera a chriwiau gwahanol.

 

Ar ôl ychydig o flynyddoedd, cefais fy symud i adran weithrediadau BBC Cymru. Roedd hyn yn golygu mwy o amrywiaeth ar gyfer y math o gynyrchiadau roeddwn yn gweithio arnynt. Dechreuais weithredu camera ar y newyddion a chwaraeon, a sioeau stiwdio fel ‘Crimewatch Roadshow’ a ‘Wales Live’. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, canolbwyntiais ar ddysgu cymaint ag y gallwn a gwella fy sgiliau, gan gynnwys dysgu gweithredu’r jib. Yna, cefais ddyrchafiad i rôl gweithredwr camera llawn amser yn BBC Cymru.

Wrth i ni ddod i ddiwedd ein cyfnod yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru yn ardal Llandaf, Caerdydd, roedd cyfle i fod yn rhan annatod o’r symud o Landaf i’r adeilad newydd yng nghanol Caerdydd. Neidiais ar y cyfle i wneud hynny. Roedd yn rhaid i mi greu ‘shots’ a symudiadau gan ddefnyddio’r camerâu roboteg i weithio gydag awtomeiddio yn yr orielau newyddion a’r stiwdios. Roedd y profiad hwn mor werthfawr, nid yn unig o ran dysgu technoleg newydd ond gweithio dan bwysau mawr a chyfyngiadau amser yn ystod y pandemig.

 

Ar ôl cwblhau’r prosiect, penderfynais ei bod hi’n amser i mi fentro allan i’r byd llawrydd. Felly, ym mis Ebrill eleni gadewais y BBC I fod yn hunangyflogedig. Mae gwneud hyn wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf cyffrous yn fy ngyrfa hyd yn hyn; nid yn unig yr wyf yn gallu gweithio ar raglenni amrywiol, ond rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl newydd bron bob dydd. Rydw i hyd yn oed wedi cael cyfle i gyfarwyddo, profiad cyffrous tu hwnt.

Mae’n deg i ddweud na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb Sgil Cymru a’r bobl wych sy’n gweithio yno…perswadio bachgen pentref bychan o ogledd Cymru y gallai gael gyrfa yn y diwydiant gwych hwn.

Diolch yn fawr iawn.