Stephen O’Donnell

Mae Stephen yn gweithio ar The Pact II.

 

1. Ble rydych chi wedi cael eich lleoli a beth ydych chi’n ei wneud?

Rwyf wedi cael fy rhoi yn adran lleoliadau The Pact ll a gynhyrchir gan Little Door Productions. Rwyf ar leoliad mewn tŷ eithaf crand ar hyn o bryd. Fy swydd i yw dod i mewn cyn yr Alwad Uned a gwneud yn siŵr fod pethau’n barod yn y lleoliad fel bod yr holl adrannau eraill yn gallu paratoi i ddechrau saethu; i sicrhau bod yr EasyUps wedi’u gosod a bod y biniau allan yn barod. Os oes angen symud pethau ar y cynhyrchiad rydym yn cael bloedd ar y radio. Rydyn ni’n trefnu parcio’r cerbydau technegol ac yn sicrhau bod gan bawb fynediad i’r lleoliad. Rydym yn gosod a threfnu’r ardal fwyta i’r criw i gyd a rheoli’r traffig os yn ffilmio ar strydoedd cyhoeddus.

2. Beth yw’r syrpreis mwyaf i chi ei gael hyd yn hyn?

Y syrpreis mwyaf i mi ei gael hyd yn hyn yw pa mor groesawgar yw’r criw i gyd. Mae’r oriau’n hir a’r tywydd wedi bod yn anodd ond mae cryfder a chyfeillgarwch y criw wedi bod yn fendigedig.

3. Ydych chi’n gweithio gydag unrhyw brentisiaid presennol neu gyn-brentisiaid?

Rwyf wedi gweld Will ac Alex sy’n gweithio i Real SFX… Roedd yn rhaid iddynt reoli tân yn y tŷ a daethant yn barod gyda chanisters o nwy a llosgwyr. Fe wnaethon ni gymharu nodiadau am Sgil Cymru…

4. Beth yw’r rhan orau o’r profiad hyd yn hyn?

Cael eich cydnabod fel rhan o’r tîm a dod i adnabod pobl. Dod yn fwy hyderus oherwydd bod y diwrnod cyntaf yn anodd, rydych chi ychydig ar goll a ma angen ychydig o ddewder i ddyfalbarhau. Mae hefyd yn helpu bod y bobl o’ch cwmpas mor gefnogol a bob dydd rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd.

5. Beth yw’r her fwyaf?

Ma ffilmio drwy’r nos gyda’r glaw yn disgyn yn sialens. Mae angen dillad cynnes, ymarferol, sy’n dal dwr arnoch chi. Bag mawr gyda dillad ar gyfer pob tymor yn hanfodol. Ond gorfwyta yw’r her fwya. Mae’r arlwyo’n dda iawn, ac mae byrbrydau a bisgedi bob amser wrth law. Mae gwrthsefyll temtasiwn yn her enfawr.