Tara Wyllie, Golygydd Llawrydd, yw’r trydydd hyfforddai ar gynllun Camu Fyny Sgil Cymru.
Fel rhan o’i rhaglen Camu Fyny roedd Tara yn camu fyny o fod yn Olygydd Final Cut Pro i fod yn Olygydd Avid trwy fynychu amryw o gyrsiau. Trwy weithio fel Golygydd Llawrydd dros y blynyddoedd diwethaf mae Tara wedi sylwi bod Avid yw safon y diwydiant a bod angen iddi ei ddysgu.
Dwedodd Tara:
Roeddwn i’n edrych am hyfforddiant roedd yn medru camu fi fyny o fod yn hyfforddai i rôl uwch fel Golygydd Avid Ardystiedig. Roeddwn i am ehangu ar fy sgiliau i fod yn fwy cymwys ac i fedru cael rhagor o brofiad a chyfleoedd i fod yn Olygydd yn y diwydiant drama yng Nghymru.
Cyn ennill ei lle ar Gamu Fyny roedd Tara eisoes wedi bod yn gweithio fel Golygydd Offlein ar gyfer amryw o gleientiaid yn ogystal â pharhau i ehangu ar ei sgiliau ôl-gynhyrchu.
Dechreuodd Tara yn y diwydiant fel Hyfforddai Marchnata gyda BBC Cymru Wales nol yn 2009. Trwy ei chyfnod yn y BBC cafodd Tara amryw o brofiadau o fewn y broses gynhyrchu gan gynnwys gweithio fel Rhedwr ar ‘Doctor Who Proms’, cysgodi’r Arolygydd Sgript ar Pobol y Cwm a’r siawns i eistedd mewn ar Olygiad Ar-lein. Yn dilyn y profiad yma sylweddolodd Tara bod hi am fod yn Olygydd go iawn a wnaeth hi sefydlu ei hun fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd yn 2011.
Yn ogystal â gweithio fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd mae Tara wedi gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu ar amryw o raglenni teledu gan gynnwys ‘The Only Way is Essex’ a ‘Celebs Go Dating’.
Dwedodd Tara:
Wrth weithio ar y cynyrchiadau yma cefais i’r siawns i ddysgu mwy am y broses cynhyrchu. Mae hyn yn bwysig i fi fel Golygydd, i weld sut fedrai helpu’r proses ôl gynhyrchu.