Zahra Errami

PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Zahra nawr ac i glywed am brofiad Zahra, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru

Enw: Zahra Errami

Oedran: 26

O: Ynys Môn

Cyflogwr Prentis: ITV Cymru Wales

Swydd Teitl Prentis: Prentis Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Rheolwr llawr i siop ddillad stryd fawr boblogaidd.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Dwi ddim y person mwyaf academaidd, a wnes i byth ffeindio rhywbeth oedd o wir ddiddordeb i fi astudio yn y Brifysgol, felly roedd prentisiaeth ble allwn i ddysgu tra’n gweithio mewn diwydiant creadigol, yn swnio’n berffaith. Roeddwn i ‘di bod yn gweithio fel Colurwraig am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wedi joio gweithio ar gyfer teledu a ffilm, felly roedd y diddordeb yn y diwydiant wastad wedi bod yno.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Fues i yn lwcus iawn i gael profi amryw o swyddi gwahanol, o ffilmio a bod yn y galeri i ysgrifennu darnau newyddiadurol gwreiddiol i wefan ITV Cymru. Wnes i ddisgyn mewn cariad gyda’r ochr newyddiadurol o’r swydd yn yr adran ddigidol. Ges i siawns i gael  rheolaeth greadigol o’r Instagram, ac aeth hwnnw â fi i uchelfannau (yn llythrennol!)  hollol boncyrs, fel ar do Stadiwm y Principality, rhywle faswn i erioed wedi dychmygu gallwn i fynd.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Dwi ‘di bod yn rhan o gymaint yn ystod fy mhrentisiaeth! Ges i siawns i fod yn ymchwilydd i gyfres Ein Byd a Y Byd ar Bedwar o fewn yr adran Materion Cyfoes Cymraeg. Hefyd wnes i gael y cyfle i greu cynnwys digidol i ITV Cymru ac i Hansh S4C. Mae creu cynnwys digidol i ITV Cymru yn ystod gŵyl Balchder/Pride Cymru, yn un o’r prosiectau dwi’n fwyaf balch ohoni.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Na, dim rili. Roedd yn dipyn o her gorfod ail-wneud fy sgiliau allweddol, ond gyda chefnogaeth y staff yn Sgil Cymru, yn ogystal â chydweithwyr, wnes i allu gorffen yr unedau a’u cael allan o’r ffordd, i mi gael ffocysu ar fy ngwaith. Fel arall, mi oedd e’n bleser o’r dechrau i’r diwedd.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Roeddwn i’n lwcus! Daeth swydd Newyddiadurwr o Dan Hyfforddiant i Hansh S4C i fyny, oedd yn siwtio fi i’r dim. Wnes i gais ac o fewn ychydig wythnosau, ges i gyfweliad. Pythefnos wedyn, gyda mis ar ôl o fy mhrentisiaeth, ges i’r newyddion bod fi wedi cael y swydd. Felly es i’n syth mewn i’n rôl newydd pan ddaeth y brentisiaeth i ben.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Dwi wedi tyfu gymaint o ran hyder yn fy hunan ac yn fy sgiliau. Dwi’n gweld gwellhad yn fy Nghymraeg, llafar ac ysgrifenedig. Mae hyn lawr i’r faith i mi gwblhau gwaith yn Gymraeg yn Sgil Cymru a gweithio o fewn yr adran rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru. Fyswn i’n dweud bod fy agwedd tuag at waith wedi newid. Ar ôl gweithio am flynyddoedd mewn siopau dillad, roeddwn i’n teimlo’n ddigymell, gyda diffyg ffocws yn fy ngyrfa. Nawr dwi’n deffro bob bore yn edrych mlaen i fynd i ‘ngwaith ac yn teimlo yn fwy positif am fy ngyrfa.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Dwi’n gobeithio gwneud y mwyaf allan o’n swydd o dan hyfforddiant er mwyn sicrhau swydd fel Newyddiadurwr Aml-gyfryngol, rôl eithaf newydd i ITV sydd â mwy o ffocws ar elfennau digidol o’i gymharu â newyddiadurwr cyffredinol. Byswn i wrth fy modd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen ddigidol i un o’r darlledwyr mawr yn y dyfodol.

 

DIWEDDARIAD GWANWYN 2022

 

 

Mae Zahra ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Fidio Digidol a Chyflwynydd gyda ITV News sydd wedi ei leoli yn ITN yn Llundain.

 

Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

 Roedd fy lleoliad cyntaf gydag ITV Cymru ym Mae Caerdydd.

 

Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

 Cefais groeso ar unwaith yn ITV Cymru, a dwi’n credu i fi feddwl ar y cychwyn fod pawb yn llawer rhy brysur a phwysig i roi amser a chyngor i’r prentis – ond roedd hynny’n gwbl anghywir, roedd pawb yn hynod o gyffrous i’n cael ni yno ac yn fwy na pharod i wrando ar bersbectif a syniadau newydd.

Cefais gyfle i dreulio amser ar y ddesg ddigidol, ac roeddwn i’n teimlo bod fy syniadau’n cael eu gwerthfawrogi a chefais lawer o gyfrifoldeb yn gynnar – dyna pryd roeddwn i’n teimlo fy mod wedi dod o hyd i’m lle.

 

Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

 Fy rhwystr mwyaf yn bendant oedd rhywbeth roeddwn i wedi sylweddoli ar ôl y brentisiaeth, y gall y diwydiant fod yn gystadleuol – am bob cyfle mae 20 o bobl eraill hefyd eisiau’r un un. Ond dwi’n meddwl os ydych chi’n aros yn ddilys, os oes gennych chi syniadau da ac ymroddiad i’r gwaith – nid yw cystadleuaeth yn broblem!

 

Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

 Dywedodd Sue Jeffries wrthyf unwaith am ‘beidio â bod yn gyfforddus’ lle’r ydych chi, a chyn gynted ag y byddwch yn teimlo nad ydych yn symud ymlaen neu ddim yn dysgu – mae’n bryd symud ymlaen. Rydw i wedi glynu wrth hynny, ac mae dilyniant yn rhywbeth rydw i wedi’i gyflawni flwyddyn ar ôl blwyddyn ers clywed hynny. Mae’n hawdd mynd yn sownd mewn un lle a diolch am y cyfle, ond mewn diwydiant lle mae pethau’n newid ac yn datblygu drwy’r amser, rhaid i chi gofio eich bod chi angen neud yr un peth.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

 Gorau po fwyaf o sgiliau! Cymerwch bopeth a ddysgwch yn Sgil Cymru ac ar leoliad, rhowch gynnig ar bopeth y gallwch ei wneud, yn y pen draw mae gwybod ychydig o bopeth yn fantais. Hefyd, arhoswch yn driw i chi’ch hun, yr hyn sy’n eich gwneud chi’n wahanol i ymgeiswyr eraill mewn swyddi yn y dyfodol yw eich dilysrwydd a’ch gwerthoedd – felly peidiwch â dioddef gan glitz a hudoliaeth y diwydiant!