BLE MAEN NHW NAWR? – Megan Sanders

Edrychiad nôl ar ein prentisiaid o’r gorffennol a chyfle i weld beth maent yn gwneud erbyn hyn!

Mae Megan ar hyn o bryd yn gweithio ar ‘WOLF’ fel Ysgrifennydd y Cynhyrchiad.

 

Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

Fy lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru oedd gyda Gorilla yn yr adran Ôl-gynhyrchu. Fi oedd eu rhedwr swyddfa/llawr. Roedd yn wahanol i sut roeddwn i wedi dychmygu dechrau fy ngyrfa ffilm/teledu; dechrau ar ddiwedd sioe yn hytrach na’r dechrau, ond rhoddodd fewnwelediad anhygoel i mi o sut mae Ôl-gynhyrchu yn gweithio, faint o amser a manylder sy’n cael ei neilltuo i bob un ffrâm. Roedd yn brofiad diddorol iawn. Fy mhrif gyfrifoldeb oedd sicrhau bod y swyddfa’n rhedeg yn esmwyth o ddydd i ddydd: rhedeg dreifiau rhwng lloriau, glanhau ystafelloedd golygu, sicrhau bod y gegin wedi’i stocio’n llawn, archebu cinio a gwneud te a choffi.

 

Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

Yn ystod fy amser yn Gorilla, fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl oedd yn arfer gweithio gyda fy nhad yn y BBC pan oedd yn olygydd yno.  Roedd yn cŵl iawn i fod mewn lle tebyg i’r hyn yr oedd e 30 mlynedd yn ôl. Dyna oedd sylfaen fy hyder mewn gwirionedd, a gynyddodd wrth i mi barhau trwy gydol y flwyddyn.

 

Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

Delio â digwyddiadau bywyd go iawn wrth weithio. Nid yw bywyd y tu allan i ffilmio yn dod i ben, ac weithiau gall deimlo fel bod cymryd diwrnod bant oherwydd salwch yn ddiwedd y byd, ond yn bendant diw e ddim. Mae’r oriau’n gallu bod yn anodd iawn felly roedd cael yr hyder i ddweud ‘hei dwi’n cael ychydig o drafferth’ yn her. Ond roedd Sue a Nadine mor gymwynasgar â llawn cydymdeimlad.

 

Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

Dysgwch sut i wneud paned dda o de. Mae pawb yn cael te ychydig yn wahanol, os cymerwch yr amser i ofyn i rywun sut maen nhw’n hoffi eu te, mae’n debyg y bydd yn dechrau sgwrs, sy’n ddefnyddiol iawn wrth ddarganfod pa adran rydych chi am roi cynnig arni.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

Mae’n waith caled, ond mae’n bendant yn werth chweil. Roedd fy mlwyddyn fel prentis yn un brysur iawn, llawer o hwyl a sbri, ond nawr rydw i’n gweithio yn y diwydiant rydw i’n ei garu, ac mae dod i’r gwaith yn bleser ac nid yn dasg. Rydych chi’n cael mas beth rydych chi’n ei roi mewn yn y brentisiaeth hon. Os byddwch yn neidio pen yn gyntaf ac yn rhoi 100%, ni fydd gennych unrhyw beth i boeni amdano pan mae’r prentisiaeth yn dod i ben.