BLE MAEN NHW NAWR? – Osian Davies

Edrychiad nôl ar ein prentisiaid o’r gorffennol a chyfle i weld beth maent yn gwneud erbyn hyn!

Mae Osian nawr yn Gynorthwyydd Technegol ac yn Weithredwr Drôn ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r BBC.

 

1.Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

Fy lleoliad gyntaf oedd yn yr adran ffeithiol ar The One Show gyda’r VT Team yng Nghaerdydd. Ar y pryd, BBC Cymru ond erbyn hyn, BBC Studios. Wnes i helpu hefo ymchwilio fewn i straeon a helpu paratoi y cit ar gyfer saethu’r straeon.

 

2.Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

Ar fy lleoliad gyntaf hefo’r One Show i ffilmio’r stori wnes i setio fyny yng Nghaerfaddon ar y Box Tunnel. Fe wnes i ddysgu sut oedd y cit yn gweithio a chyfarfod a phobl oedd eisiau rhannu eu storiâu nhw. A dyna y foment wnes i sylweddoli fy mod eisiau neud gwaith camera. Gofynnwyd i mi gasglu golygfeydd cyffredinol (GVs)  ar gyfer ffilm arall. Yn yr ystafell olygu, roedd y cyfarwyddwr mor hapus hefo fy ngwaith, roeddwn i’n gwybod mae gwaith camera roeddwn eisiau wneud yn y dyfodol.

 

3.Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

Dwi’n meddwl y peth mwyaf dwi wedi goresgyn yw ffeindio fy hunan hyder i wneud y swydd a chredu yn fy hun. Mae’n hawdd yn y diwydiant yma i golli hyder neu i ail feddwl be ti’n neud, yn enwedig wrth edrych ar waith bobl eraill a’r safon maen nhw’n disgwyl o’r gwaith.

 

4.Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

‘Just do it’. Os wyt ti eisiau gweithio gyda’r camera, cymer luniau neu ffilmia dy stwff dy hun yn dy amser sbâr.

 

5.Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

Gwrandewch ar y bobol o’ch cwmpas chi ar leoliad. Mae pawb eisiau helpu ac eisiau i chi lwyddo. Os oes gennoch chi gwestiwn neu chi ddim yn deall rhywbeth, peidiwch fod ofn gofyn, mae pawb yn deall eich bod chi yna i ddysgu.