Dechreuodd Dylan Mohammad-Smart ei brentisiaeth yn 2014 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Dylan, 19 o Bontypridd, fel Prentis Chwaraeon Radio gyda BBC Cymru Wales yn Llandaf, Caerdydd.
Wrth iddo astudio am ei TGAU cwblhaodd Dylan deuddydd o brofiad gwaith gyda’r BBC yn yr adran Chwaraeon yn Ionawr 2014. Ffeindiodd allan am y prentisiaeth gan y Rheolwr Golygydd o fewn yr adran Chwaraeon yn y BBC. Mae Dylan wastad wedi cael angherdd am chwaraeon a roedd e’n gwybod bod y prentisiaeth yma yn mynd i rhoi’r siawns iddo fe ddechrau ei yrfa yn y diwydiant.
Dywedodd Dylan:
Mae gen i angherdd am chwaraeon a rydw i wastad wedi cael diddordeb mawr yn y cyfryngau, neillai yn chwarae fe, yn darllen y colofnau Chwaraeon yn y papur newydd, yn gwylio fe ar y teledu neu yn gwrando arno fe ar y radio. Roedd y prentisiaeth yma yn gyfle perffaith i fi medru rhoi ‘cic-start’ i fy ngyrfa.
Tra’n gweithio i BBC Cymru Wales fel prentis cafodd Dylan y cyfle i weithio ar yr ochor radio o fewn yr adran Chwaraeon. O ddydd i ddydd roedd Dylan yn tori clips ar gyfer bwletins, ysgrifennu lincs ar gyfer y cyflwynwyr a hefyd yn trefnu gwesteion ar gyfer y Radio Wales Sport Show. Cafodd Dylan siawns i weithio ar brosiectau mawr yn cynnwys Pel-droed Cymru, Rygbi Rhyngwladol a Gwobrau Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Dylan:
Roedd gwneud y prentisiaeth yma yn un o fy mhenderfyniadau gorau. Cyn i fi ddechrau’r prentisiaeth fe wnes i droi yn 16 a roedd angen i fi dyfu lan yn gyflym.
Roedd Dylan yn 16 yn dechrau ei brentisiaeth a roedd ei ffordd o weithio a’i wybodaeth am Chwaraeon wedi creu argraff da i’w chydweithwyr.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Dylan wedi gweithio mewn nifer o rôlau wahanol, yn cynnwys Rheoli ar Leoliad. Erbyn hyn mae Dylan yn Gynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol sydd yn golygu ei fod e’n gyfrifol am dudalennau Twitter a Facebook ar gyfer BBC Wales Sport a BBC Scrum V. Mae Dylan hefyd yn ffilmio ac yn golygu cynnwys ei hun ac yn cyhoeddi fe ar draws tudalennau cyfryngau cymdeithasol y BBC gan gynnwys gwefan Chwaraeon BBC.
Dywedodd Dylan:
Rydw i wedi bod yn gweithio yn y Cyfryngau Cymdeithasol ers Hydref 2016 felly dwi dal yn newydd i’r swydd ac mae gen i lot i ddysgu o fewn y maes. Dwi’n gobeithio dwi’n mynd i aros ar yr ochr cyfryngau cymdeithasol am y dyfodol agos.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud prentisiaeth? Ydych chi eisiau ennill a dysgu ar yr un pryd? Gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi i dderbyn ein cylchlythyr ac yn cadw llygad ar ein Facebook a Twitter ar gyfer yr holl newyddion diweddaraf.
Neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, plis cysylltwch efo ni ar 07843 779 870 a/neu ebostio ni ar help@sgilcymru.com.