Bootcamp Sgil Cymru (Aberystwyth)

Wyt ti am weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, neu am wybod mwy am y sector?

Tyrd at Sgil Cymru i Stafell Medrus 4, Penbryn, Prifysgol Aberystwyth yn Aberystwyth ar y 24ain o Fawrth 2022 rhwng 1100 a 1600.

Dyddiad cau 23ain o Fawrth @ 13.00, anfon neges a CV at help@sgilcymru.com i ymgeisio.

BE’ DWI AM DDYSGU O’R ‘BOOT-CAMP’ YMA?

    Pwy wyt ti yn y byd teledu a ffilm?
    Beth ti am wneud yn dy yrfa?
    Sut i greu proffil proffesiynol
    Creu CV proffesiynol, a gwybod at bwy i’w anfon
    Ceisiadau am swyddi a chyweliadau
    Beth sydd yn digwydd yn y swydd- ar set ac mewn swyddfa gynhyrchu
    Y ffyrdd gwahanol o weithio – a gweithio allan beth sydd orau iti – bod yn gyflogedig neu yn hollol lawrydd
    Cytundebau ac Anfonebion
    ‘Movement Orders’ a ‘Call sheets’ pam a sut i’w darllen
    Adnabod dy hawliau
    Gwneud argraff