Bootcamp Sgil Cymru

Wyt ti am weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, neu am wybod mwy am y sector?

Tyrd at Sgil Cymru i Stiwdios Urban Myth yng Nghasnewydd ar y 18fed o Fawrth 2022 rhwng 1100 a 1600.

Bydd cinio yn cael ei ddarparu am ddim.

Dyddiad cau 16 eg Mawrth @1300, anfon neges a CV at help@sgilcymru.com i ymgeisio.

BE’ DWI AM DDYSGU O’R ‘BOOT-CAMP’ YMA?

  • Pwy wyt ti yn y byd teledu a ffilm?
  • Beth ti am wneud yn dy yrfa?
  • Sut i greu proffil proffesiynol
  • Creu CV proffesiynol, a gwybod at bwy i’w anfon
  • Ceisiadau am swyddi a chyweliadau
  • Beth sydd yn digwydd yn y swydd- ar set ac mewn swyddfa gynhyrchu
  • Y ffyrdd gwahanol o weithio – a gweithio allan beth sydd orau iti – bod yn gyflogedig neu yn hollol lawrydd
  • Cytundebau ac Anfonebion
  • ‘Movement Orders’ a ‘Call sheets’ pam a sut i’w darllen
  • Adnabod dy hawliau
  • Gwneud argraff