Menter ar gyfer gweithwyr proffesiynol teledu sy’n byw yng Nghymru.
Ydych chi’n gweithio mewn drama teledu neu efo’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny, ond yn gweithio yn y theatre, animeiddio, gemau neu unrhyw sector debyg? Ydych chi’n edrych i ‘Gamu Fyny’ yn eich gyrfa?
Mae CAMU FYNY yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Mae’r menter yma yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs fydd yn para ddim mwy na 10 wythnos ac yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan. Y mae disgwyl y bydd yr hyfforddai wedi dod o hyd i gwmni neu gwmniau cynhyrchu sydd am weithio gyda nhw, i’w mentora drwy y cynllun, ond weithiau gall Sgil Cymru helpu gyda hyn. Bydd y bwrsari yn cael ei gapio, a bydd fel arfer yn cael ei dalu ar ddiwedd y cynllun, ond er mwyn helpu gyda chostau byw, gall hyn hefyd newid, gyda thrafodaeth. NODER, mae’r cynllun hwn yn hollol bwrpasol i’r unigolyn, ac mae’n rhaid cael trafodaeth cyn cael eich derbyn.
Er mwyn gweld sut mae Camu Fyny wedi helpu nifer oi bobl dros y blynyddoedd, edrychwch ar ein astudiaethau achos: https://www.sgilcymru.com/cy/camu-fyny-2017/astudiaethau-achos
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol 250 gair ar pam yr hoffech gymryd rhan i help@sgilcymru.com
I dderbyn y newyddion diweddaraf o ran ein rhaglenni Camu Fyny yn y dyfodol arwyddwch lan i dderbyn ein cylchlythyr diwydiant.
Mae’r rhaglen yma wedi’i gefnogi gan gronfa Teledu o Safon Uchel ScreenSkills a Chymru Greadigol