ASTUDIAETHAU ACHOS

Hanna Lewis-Jones

Hyfforddai cyntaf ar gyfer rhaglen Camu Fyny 2017 oedd Hanna Lewis-Jones.

Cyn ennill ei lle ar Camu Fyny, roedd Hanna wedi bod yn gweithio’n galed fel Hyfforddai Colur a Gwallt ar nifer o gynhyrchiadau. Mae ei CV yn cynnwys y sioe theatr ‘Les Miserables’ yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, y ffilm ddrama ‘Their Finest’ gyda Sam Claflin a Gemma Arteron, a’r ffilm arswyd ‘Watcher in the Woods’.

Fel rhan o’i rhaglen Camu Fyny roedd Hanna yn gweithio ar y gyfres ddrama Keeping Faith/Un Bore Mercher i S4C a’r BBC. Roedd hi’n gweithio dan adain hynod o brofiadol y Cynllunydd Colur a gwallt Claire Prichard-Jones, ac o fewn y dyddiau cyntaf roedd hi’n datblygu nifer o sgiliau newydd gan gynnwys sut i dorri lawr sgriptiau a chymeriadau yn ogystal ag ennill mwy o hyder yn ei rol newydd.

Dwedodd Claire:

Mae Camu Fyny wedi bod yn help mawr i Keeping Faith/Un Bore Mercher, gan ein bod wedi medru parhau gyda hyfforddiant Hanna. Mae Hanna yn dalentog iawn, ac mae’r ardal yma mor anodd i gael ffordd i mewn iddo. Heb help Sgil Cymru fyddwn ni ddim wedi medru bod yn gynorthwy i Hanna.

Dwedodd Hanna:

Mae pob dydd yn wahanol – ac mae hyn yn cadw popeth yn ddiddorol. Weithiau dwi angen bod ar set yn edrych ar ol y prif gast ac weithiau yr artisiaid cynorthwyol; ar ddyddiau eraill dwi angen paratoi a phlanio y dyddiau sydd i ddod, gan wneud pethau fel setio wigiau, llenwi mowldiau prosthetig, edrych ar ol stoc ac yn y blaen.

Mae ‘camu fyny’ o hyfforddai i swyddi cynorthwyol wedi bod yn hanfodol imi. Dwi’n hynod o ddiolchgar mod i nawr yn medru cael y profiad o weithio ar 6 mis o ddrama BBC/S4C o’r dechrau i’r diwedd, gan ddatblygu fy sgiliau a bod yn fwy cymwys yn fy rol newydd – dwi’n edrych ymlaen at y cyfleoedd nesa.

 

Nicola Webley

Bu Nicola Webley, o’r Barri, yn gweithio yn y theatr am bymtheng mlynedd fel rhan o’r Adran Wisgoedd.

Penderfynodd Nicola ei bod yn bryd symud cartref i Gymru ac roedd yn edrych ar sut y gallai ddechrau gweithio mewn gwisgoedd yn y byd teledu. Diolch i’r cynllun ‘Camu Fyny’, cafodd Nicola gyfle i gysgodi’r Adran Wisgoedd ar Casualty, dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:

Beth mae eich gwaith o ddydd i ddydd yn ei cynnwys?

Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys dechrau cynnar gwallgof! Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod unrhyw ddillad yn barod ar gyfer y diwrnod i ddod a bod popeth wedi’i sychu, ei stemio ac yn barod i fynd. Yna byddwn yn eistedd i lawr gyda’n gilydd a thrafod y diwrnod, fel hyn gallwn nodi unrhyw newidiadau gwisgoedd. Unwaith y bydd yr actorion yn dechrau cyrraedd, byddan nhw’n gwisgo’u hunain a chyn iddyn nhw fynd ar set, byddwn ni’n sicrhau bod pob actor yn edrych y ffordd rydyn ni eisiau / angen iddyn nhw edrych ar gyfer y ffilmio. Rwyf wedi cael rhyddid i fynd ymlaen yn benodol a chyfeirio at y gronfa ddata dilyniant  sydd wedi bod yn ddiddorol iawn. Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni’n sicrhau bod yr holl wisgoedd yn cael eu rhoi yn ôl yn eu lle ac yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf o ffilmio. Weithiau, efallai, bydd yn rhaid i mi fynd i’r siopau gwisgoedd os oes angen unrhyw beth Newydd  arnom.

Pa brofiad diwydiant oedd gennych chi eisoes?

Rwyf wedi gweithio yn y theatr ers pymtheng mlynedd. Am yr un ar ddeg mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio fel Pennaeth Gwisgoedd yn y Donmar Warehouse. O ran profiad ar setiau teledu a ffilm, doedd gen i ddim.

Pa mor wahanol ydy gweithio ar set deledu o’i gymharu â gweithio ym myd y theatr?

Mor wahanol! Yn y theatr, dim ond dau ohonom oedd yn gweithio yn yr adran gyfan ac roeddem yn gyfrifol am wisgoedd, gwallt a cholur. Wrth gwrs, ar set, rwy’n dal i roi gwisgoedd ar actorion, gan sicrhau eu bod yn gweddu ac ati. Hefyd, mae theatr yn cael ei yrru gan fympwy’- rydych chi’n gweithio’n gyflym iawn ac mae’r adrenalin yn gryf. Mae amser i stopio ar set – os yw actor ymlaen ar y  llwyfan ac mae problem gyda’r wisg, mae’n rhaid iddyn nhw barhau – does dim amser i stopio. Ond  gallwch faddau i  lawer mwy yn y theatr hefyd. Rwyf wedi dysgu, gyda ffilmio, bod angen i wisgoedd fod yn benodol iawn i gyd-fynd â’r set ac actorion eraill – er enghraifft, mae’r lliwiau y mae actor yn eu gwisgo ar set yn bwysig iawn.

Sut ydych chi’n gobeithio y bydd y cynllun ‘Camu Fyny’ yn helpu i ddatblygu eich gyrfa?

Mae wedi fy nhaflu i ddylunio mwy o wisgoedd. Rwy’n gobeithio y bydd yn fy helpu i ddod yn fwy creadigol. Rydw i wedi cynorthwyo digon o ddylunwyr yn y theatr i fod yn synhwyrol felly rydw i’n defnyddio’r profiad hwnnw i’m helpu gyda’r cynllun. Doeddwn i ddim wedi clywed am y cynllun Camu Fyny nes i mi gyfweld ar gyfer Swydd Iau y llynedd ond dywedwyd wrthyf fod gen i ormod o brofiad mewn gwisg theatr ond, dim  yn y byd teledu. Fe wnes i gysylltu â’r BBC eto i ddweud y byddwn i’n gadael Llundain i symud yn ôl i Gymru a fy mod i’n wirioneddol awyddus i ddechrau gweithio ar set, dyma’r tro cyntaf i mi glywed am Camu Fyny, felly es i amdani. Dywedwyd wrthyf ei bod yn dda iawn dod o hyd i Gymraes sydd eisiau gweithio nol yng Nghymru felly mae hynny wedi bod yn dda i glywed.

A fyddech chi’n argymell y cynllun Camu Fyny?

100%! Byddwn yn bendant yn ei argymell. Mae pawb yn yr adran wisgoedd wedi bod yn dweud bod y cynllun yn anhygoel. . Mae’n gynllun mor hael, ac mae’n hyfryd gweld sut mae Sgil Cymru yn gwneud eu gorau dros y diwdiant.  Mae hefyd yn braf gweld cynllun sydd ar gael yng Nghymru i’r diwdiant yng Nghymru.  Diolch! Mae’r cynllun yn anhygoel

Os hoffech chi ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cynllun Camu Fyny, cliciwch yma.

Al Edwards

Croesawodd Sgil Cymru Al Edwards, Golygydd profiadol, fel yr ail hyfforddai ar gynllun Camu Fyny 2017.

Mae gan Al dros ugain mlynedd o brofiad fel Golygydd. Dechreuodd e gyda chwmni teledu annibynnol bach ar y pryd o’r enw Boomerang, cyn symud ymlaen i dŷ cyfleuster ‘Mwnci’ yng Nghaerdydd. Arosodd Al gyda ‘Mwnci’ drwy eu cyfnod pontio ac ail brandio fel ‘Gorilla’.

O ddydd i ddydd mae Al yn arbenigo mewn golygu off lein, sy’n golygu ei fod e’n derbyn y rushes rhaglen neu ffilm i gyd ac yn torri nhw mewn trefn ddilyniannol ar gais y Cyfarwyddwyr.

Yn ystod yr haf 2017, penderfynodd e i fynd yn llawrydd.

Dwedodd Al:

Fel mae technoleg yn gwella, ac wrth i gyllidebau fynd yn llai, mae’n dod yn amlwg i fi bod yr angen yno i fod  gallu aml dasgio a bod yn gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau, ac eithrio golygu. Mae cleientiaid yn awr yn disgwyl lefel wahanol o olygydd. Un sydd yn ogystal â thorri rhaglen, yn gallu graddio, torri ar-lein a hyd yn oed gwneud FX arbennig ar wahanol lwyfannau a meddalwedd. Dyma’r rheswm y gwnes i gais am raglen ‘Camu  fyny’ er mwyn imi allu gwella fy hun, ac ail-addysgu drwy gyrsiau a fydd yn helpu fi i uwchraddio fy ngwasanaeth.

 

Tara Wyllie

Tara Wyllie, Golygydd Llawrydd, yw’r trydydd hyfforddai ar gynllun Camu Fyny Sgil Cymru. 

Fel rhan o’i rhaglen Camu Fyny roedd Tara yn camu fyny o fod yn Olygydd Final Cut Pro i fod yn Olygydd Avid trwy fynychu amryw o gyrsiau. Trwy weithio fel Golygydd Llawrydd dros y blynyddoedd diwethaf mae Tara wedi sylwi bod Avid yw safon y diwydiant a bod angen iddi ei ddysgu.

Dwedodd Tara:

Roeddwn i’n edrych am hyfforddiant roedd yn medru camu fi fyny o fod yn hyfforddai i rôl uwch fel Golygydd Avid Ardystiedig. Roeddwn i am ehangu ar fy sgiliau i fod yn fwy cymwys ac i fedru cael rhagor o brofiad a chyfleoedd i fod yn Olygydd yn y diwydiant drama yng Nghymru.

Cyn ennill ei lle ar Gamu Fyny roedd Tara eisoes wedi bod yn gweithio fel Golygydd Offlein ar gyfer amryw o gleientiaid yn ogystal â pharhau i ehangu ar ei sgiliau ôl-gynhyrchu.

Dechreuodd Tara yn y diwydiant fel Hyfforddai Marchnata gyda BBC Cymru Wales nol yn 2009. Trwy ei chyfnod yn y BBC cafodd Tara amryw o brofiadau o fewn y broses gynhyrchu gan gynnwys gweithio fel Rhedwr ar ‘Doctor Who Proms’, cysgodi’r Arolygydd Sgript ar Pobol y Cwm a’r siawns i eistedd mewn ar Olygiad Ar-lein. Yn dilyn y profiad yma sylweddolodd Tara bod hi am fod yn Olygydd go iawn a wnaeth hi sefydlu ei hun fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd yn 2011.

Yn ogystal â gweithio fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd mae Tara wedi gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu ar amryw o raglenni teledu gan gynnwys ‘The Only Way is Essex’ a ‘Celebs Go Dating’.

Dwedodd Tara:

Wrth weithio ar y cynyrchiadau yma cefais i’r siawns i ddysgu mwy am y broses cynhyrchu. Mae hyn yn bwysig i fi fel Golygydd, i weld sut fedrai helpu’r proses ôl gynhyrchu.

 

Movie Magic Scheduling & Budgeting

Movie Magic Scheduling & Budgeting

Mae Sgil Cymru wedi cynorthwyo degau o bobl i wella eu sgiliau Movie Magic Scheduling and Movie Magic Budgeting; o’r rheiny gyda mymryn bach o ymwyddyddiaeth o’r pecynnau, i’r rheiny oedd angen dipyn bach o ymarfer wedi anghofio’r pecynnau dros amser.

Shelley Rees

Shelley Rees

Croesawodd Sgil Cymru Shelley Rees, fel hyfforddai ar gynllun Camu Fyny 2019.

Mae Shelley yn actores a chyfarwyddwraig lwyddiannus sydd wedi gweithio yn y meysydd ffilm, teledu, llwyfan a radio. Mae Keeping Faith, 35 Diwrnod, Casualty, Gwaith Cartref a’r Gwyll ymhlith ei chredydau actio eang.

“Wedi meithrin amryw sgiliau yn fy ngyrfa actio a chyfarwyddo, roeddwn yn awyddus i weld os oedd modd defnyddio’r un sgiliau mewn swyddi eraill o fewn y diwydiant.   Roedd cymryd rhan mewn cwrs Cydlynydd Cynhyrchu a dysgu sut i ddefnyddio Movie Magic yn rhan bwysig o’r broses hon, fydd yn fy ngalluogi i fynd i gyfeiriad gwahanol gyda fy ngyrfa yn y dyfodol.

Mae’r cyfle i fod yn rhan o Camu Fyny wedi agor fy llygaid i’r posibiliadau, ac yn golygu bydda i yn gallu cymryd rhai llwybrau nad oeddwn wedi meddwl eu dilyn o’r blaen.”

Kevin Robinson

Kevin Robinson

Roedd Kevin Robinson wedi gweithio fel Trydanwr Cynnal a Chadw, yn Pentref Drama BBC Cymru, pan fanteisiodd ar y cyfle i ymuno â rhaglen Camu Fyny 2019.

Cafodd Kevin leoliad gwaith chwe wythnos gyda BBC Cymru, gan weithio ar gynyrchiadau yn gynnwys Plant Mewn Angen a Pobol y Cwm.

“Yn ystod y cyfnod hwn, datblygais ddealltwriaeth o’r adran oleuo a beth sy’n digwydd o ddydd i ddydd ar yr ochr ffilmio a goleuo mewn gwahanol fathau o gynhyrchiadau a rhaglenni teledu”  

Bu Kevin yn rhedeg ei gwmni gosod a phrofi trydanol ers chwe blynedd ac roedd yn gweld rhaglen Camu Fyny fel cyfle i ymestyn ei sgiliau technegol, gan alluogi iddo weithio fel Trydanwr Cynhyrchu ar gynhyrchiadau teledu blaenllaw.

Ers cwblhau ei leoliad gwaith, mae Kevin wedi cael gwaith fel Trydanwr Goleuo llawrydd, sef ei nod wrth gymryd rhan yn rhaglen Camu Fyny.

“Dwi’n cadw fy nghwmni fy hun i fynd, fel bod gen i ddigon i’w wneud pan mae’r gwaithllawrydd yn dawel, ond hyd yn hyn eleni, dwi wedi bod yn gweithio’n rheolaidd yn fy rôl newydd”

Gareth Mabey

Gareth Mabey

Mae prentis Camu Fyny 2019, Gareth Mabey, wedi bod yn gweithio fel Golygydd Cynorthwyol yn y maes drama am dros chwe blynedd. Ei nod wrth ymuno â’r rhaglen oedd cael mwy o brofiad golygyddol, fyddai’n ei alluogi i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa.

Yn ystod ei leoliad gwaith, bu Gareth yn gweithio ar un o sioeau mwya’ poblogaidd y BBC, Casualty, ymhlith cynyrchiadau eraill.

“Fel Golygydd Cynorthwyol yn y maes drama, mae’r gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd, yn ddibynnol ar y cynhyrchiad ond fel rheol mae’n dechrau’n gynnar gyda MFXs a rushes sain o’r diwrnod ffilmio blaenorol. Mi fyddai’n prosesu’r rhain, eu labelu a’u trefnu cyn eu trosglwyddo i’r golygydd. Yna, bydd rushes y diwrnod cynt yn cael eu gwylio gan y tîm. Unwaith i’r rushes gael eu prosesu, mi fyddai’n eu rhoi at ei gilydd, adeiladu dyluniad sain dros dro, neu ychwanegu vfx dros dro, beth bynnag fydd ei angen”

Mae Gareth wedi gweithio ar ystod o sioeau rhwydwaith y BBC, gan gynnwys Sherlock, Peaky Blinders a Kiri ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Gangs of London ar gyfer Sky Atlantic/HBO. Nod Gareth wrth ddod yn brentis Camu Fyny oedd datblygu ei sgiliau golygyddol, fel ei fod yn gallu camu fyny o’i waith fel Golygydd Cynorthwyol, i fod yn Olygydd – sef rôl fwy greadigol.

“Roedd gweithio gyda golygyddion ar gyfres ddrama hirdymor, nid yn unig wedi rhoi dealltwriaeth bellach i fi ond hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau golygu a chael mewnbwn gwerthfawr. Bydd hyn i gyd yn help mawr i mi wrth i fi symud ‘mlaen i gyflawni fy nod”

Jess Fothergill

Cafodd tîm Sgil Cymru’r cyfle i ymweld ȃ un o cyfranogwyr Camu Fyny; Jess Fothergill.

 

Dechreuodd Jess ei gyrfa yn yr Adran  Wisgoedd trwy gwblhau gradd Lluniad Gwisgoedd. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, cafodd Jess y cyfle i gwrdd â phobl oedd  yn gweithio o fewn y diwydiant, a gwariodd ei Haf yn gweithio ar amryw o gynyrchiadau fel profiad gwaith.

 

Ar ôl gweithio fel person Gwisgoedd wrth-law am flynyddoedd, teimlodd Jess, a’i phenaethiaid adran, ei  bod hi’n amser i ‘gamu fyny’.

 

Tra o dan y faner Camu Fyny, gweithioedd Jess fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar y rhaglen Jamie Johnson ar CBBC. Dyma’r tro cyntaf i Jess weithio fel Goruchwyliwr Gwisgoedd, a diolch i Gamu Fyny, mae hi wedi gallu cymryd yr amser i gysgodi Goruchwylwyr Gwisgoedd eraill er mwyn sicrhau ei bod hi’n dysgu’r swydd yn llawn.

 

O ddydd i ddydd, cyfrifoldeb Jess oedd i sicrhau bod y gwisgoedd i gyd yn barod ar gyfer yr artistiaid ac yn barod ar gyfer diwrnod o ffilmio. Mi oedd Jess yn sicrhau bod pawb gyda phopeth maen nhw angen ar gyfer y set. ac wedi’r ffilmio orffen  am y diwrnod, mi oedd Jess yn treulio’i amser yn paratoi gwisgoedd ar gyfer y diwrnod nesaf.

 

Mae ffilmio Jamie Johnson wedi dod i ben nawr ac mae Jess ‘di gael cynnig, ac wedi derbyn, cytundeb fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar Casualty.

 

Dywedodd Jess bod yr holl brofiad o ‘gamu fyny’ wedi bod yn aruthrol  ond yn bleserus.

“Mae wedi bod mor ffantastig. Mae Camu Fyny yn eich  helpu chi i wneud rhywbeth gwahanol. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi”

Trydanwyr

Recriwtiodd Sgil Cymru 4 trydanwr ar ei gynllun Camu Fyny 2017.

Yn dilyn yr angen a arweinir gan y diwydiant a amlygwyd gan Sgrin Cymru/ Llywodraeth Cymru, recriwtiodd Sgil Cymru 4 o drydanwyr domestig a masnachol profiadol i gamu ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill profiad fel Trydanwr yn y diwydiant teledu.

Fel rhan o’u rhaglen Camu Fyny roedd yr hyfforddeion yn gweithio ar gynyrchiadau drama BBC Cymru Wales a Stiwdio Blaidd Cymru. Yn ogystal â hyn roedd yr hyfforddeion yn mynychu amryw o weithdai er mwyn paratoi am fywyd ar set. Roedd y gweithdai yma yn cynnwys ymwybyddiaeth cit y diwydiant ac iechyd a diogelwch ar set. Hefyd mynychodd yr hyfforddeion gweithdy undydd lle wnaethon nhw greu CV i’r  diwydiant cyfryngau.

Dyma’r hyfforddeion:

Craig Parker – Gwynedd
Mae gan Craig dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector peirianneg a gosod trydanol. Mae ei brofiad yn cynnwys gweithio mewn amgylcheddau diwydiannol masnachol ar raddfa fawr. Ers 2015 mae Craig wedi bod yn hunangyflogedig, gan weithio gyda gwahanol gontractwyr ar nifer o ddatblygiadau ledled y DU.

 

John Jones – Abertawe
Mae John wedi bod yn gweithio fel trydanydd domestig, masnachol a diwydiannol am nifer o flynyddoedd. Mae ei waith yn cynnwys gosod systemau goleuadau argyfwng, ffitiadau a chyflwyniadau siop, yn ogystal ag arolygu a phrofi gwahanol systemau trydanol.

 

Richard Baldwin – Pontyclun
Mae gan Richard dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant trydanol. Ar ôl cwblhau prentisiaeth gydag AG Leers, fe ddringodd i fyny’r ysgol i swyddi uwch ac yn ddiweddar mae Richard wedi gorffen gweithio fel Goruchwyliwr Trydanol gyda Solex Electrical. Bellach mae’n rhedeg ei gwmni ei hun sy’n arbenigo mewn gwaith domestig a masnachol yn ogystal â gosod CCTV a larymau diogelwch.

 

Simon Jeffreys – Abertawe
Mae Simon yn drydanwr cymwys gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Yn ystod ei amser fel Trydanwr mae Simon wedi perchen ei fusnes trydanol ei hun yn ogystal â bod yn bartner ar y cyd mewn cwmni gosod Solar PV. Ynghyd â’i fusnes ei hun, mae’n gweithio fel Is-gontractwr Trydanol ar gyfer MIC Ltd.

 

Howard Colin

Croesawodd Sgil Cymru Howard Colin, Cynorthwy-ydd Camera profiadol, fel hyfforddai ar y cynllyn Camu Fyny 2017. 

Yn 2012 dechreuodd Howard ei yrfa trwy weithio i dŷ rhentu camerau lle cafodd y cyfle i afael ar amrywiaeth o offer camera. Yn dilyn hyn symudodd i fod yn llawrydd trwy weithio yn yr adran camera ar amryw o gynyrchiadau drama Cymraeg.

Dwedodd Howard:

Mae’n daith hir trwy geisio dysgu’r holl offer wahanol a sut i gael y gorau allan o’r offer ar gyfer y cynhyrchiad.

Swydd Howard o fewn yr adran camera ydy Cynorthwy-ydd Camera. O ddydd i ddydd mae ei waith yn amrywio, yn dibynnu ar y cynhyrchiad.

Dwedodd Howard:

Gall fy ngwaith o ddydd i ddydd amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad, ond mae’r cyfrifoldebau craidd yn cynnwys sicrhau bod y camera wedi cael ei lwytho (gyda cherdyn cof) ac yn barod i saethu. Er mwyn gwneud hyn mae yna nifer o ffactorau sydd angen eu hystyried gan gynnwys: sicrhau bod yr holl git yn cael eu rheoli’n gywir ac mae gennym y pethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y siot neu’r olygfa. Mae yna amryw o bethau sy’n gallu arafu cynhyrchiad felly mae angen ragweld rhain er mwyn eu hosgoi. Er enghraifft, gall symud o leoliad allanol oer i leoliad mewnol cynnes achosi lensys i ymgolli â chyddwyso. Mae’n bwysig meddwl ymlaen a mynd â’r lensys i’r lleoliad i gynhesu cyn i’r saethu ddechrau.

Dim ond un enghraifft yw hynny, ond mae yna amryw o sefyllfaoedd all godi. Fy nghyfrifoldeb yw gweithio gyda’r Ysgogwr Ffocws (Cynorthwy-ydd Camera 1af) i sicrhau gweithrediad llyfn y camera.

Trwy cymryd rhan mewn Camu Fyny symydodd Howard i weithio ar raglennu teledu o safon uchel yng Nghymru.

Ben Davenport

Hyfforddai olaf Camu Fyny 2017 oedd Ben Davenport.

Cwpl o flynyddoedd yn ôl cwblhaodd Ben ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru. Wrth wneud prentisiaeth gweithiodd Ben fel Prentis Adran Gynhyrchu i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath. Cafodd Ben y cyfle i weithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol, wrth weithio i BBC Cymru Wales, wnaeth ei baratoi am fywyd ar ôl y brentisiaeth.

Ers gorffen ei brentisiaeth mae Ben wedi gweithio o fewn yr adran gynhyrchu ar raglenni yn cynnwys ‘Doctor Who’, ‘Casualty’ a ‘Pobol y Cwm’. Hefyd, fe weithiodd Ben ar ffilm nodwedd o’r enw ‘The Dark Outside’ fel Cynorthwyydd Lleoliadau.

Gyda’r ffilm yn gorffen roedd Ben yn edrych am ei her nesaf ac fe benderfynodd ymgeisio am y rhaglen Camu Fyny.

Fel rhan o’i raglen camodd Ben i fyny o fewn yr adran gynhyrchu ar ‘Pobol y Cwm’.

Dwedodd Ben:

Roedd y rhaglen Camu Fyny yn fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa trwy roi’r cyfle i fi fod mewn rôl uwch lle roeddwn i’n gallu dysgu sgiliau newydd a chael profiad ymarferol wrth wneud y swydd mewn ffordd broffesiynol.

Dwedodd Llyr Morus, Cynhyrchydd Pobol y Cwm:

Daeth Ben atom fel Prentis yn yr adran gynhyrchu cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Roedd yn amlwg isio dysgu a thyfu yn broffesiynol ac am wneud yn fawr o’i amser yma ym Mhorth y Rhath. Wnaethon ni ei groesawu yn ôl trwy gymryd rhan yn y rhaglen Camu Fyny wedi iddo brofi ei hun mewn amryw o swyddi yn yr adran gynhyrchu i gwmnïau annibynnol yn ogystal â’r BBC.  Mae medru bod yn gymorth i bobl ifanc addawol fel Ben yn fraint, ac mae gallu cydweithio gyda Sgil Cymru i’r perwyl hwn yn bleser. Y gobaith yw y gallwn adeiladu ar y profiad yma i gynorthwyo mwy o bobl ifanc i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:

Mae hi’n bleser ac yn fraint inni yn Sgil Cymru allu cefnogi person ifanc fel Ben yn ei yrfa. Ers iddo lwyddo yn ei Brentisiaeth mae Ben wedi tyfu yn broffesiynol ac rydym bellach yn gallu rhoi help llaw iddo ddod yn ôl i Gaerdydd i ddringo grisiau’r adran gynhyrchu ym Mhorth y Rhath. Pob lwc i Ben yn ei yrfa, fydd yn yrfa hir a llewyrchus, dwi’n siŵr. Mae Camu Fyny fel rhaglen, unwaith eto, yn profi, nad yw cefnogaeth Sgil Cymru yn gorffen gyda’ch cwrs cyntaf.