CWESTIYNAU CYFFREDIN

Cwestiynau Cyffredin am y Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol (Lefel 3)

Beth yw Prentisiaeth?
Beth fydd Prentisiaid yn ei Ddysgu?
Ble fydd yr Hyfforddiant?
Pwy sydd ddim yn gallu Ymgeisio am y Rhaglen Brentisiaeth?
Pa Cymwysterau fydda i eu hangen i geisio am y Rhaglen Brentisiaeth hon?
A fydd Prentisiaid yn cael eu talu, neu oes rhaid iddyn nhw dalu costau astudio?
Ble fydd y Prentisiaid yn Gweithio?
Sut fydd Rhaglen y Brentisiaeth yn cael ei Strwythuro?
Beth sy’n Ddisgwyledig o’r Prentisiaid ar ôl iddynt gael eu Derbyn ar y Prentisiaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn cael eu Cefnogi ar y Prentisaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn Elwa o fod yn rhan o’r Prentisiaeth?
Y Broses Gyfweld

BETH YW PRENTISIAETH?

Cyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd yw prentisiaeth.  Mae bod yn brentis yn golygu bod gen ti swydd sy’n cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra dy fod yn gweithio ac yn ennill cyflog.

Y math o brentisaethau mae Sgil Cymru yn ei gynnig yw:

BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?

Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau.

Byddant hefyd yn gweithio tuag at Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.

BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?

Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth (dysgu rhithwir) ac hyfforddiant yn y gweithle.

PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 3 sy’n gyfwerth â Lefelau A.

Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

PA CYMWYSTERAU FYDDA I EU HANGEN I GEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?

O leia 4 TGAU gyda’r graddau A i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.

A FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU TALU, NEU OES RHAID IDDYN NHW DALU COSTAU ASTUDIO?

Nad oes rhaid i’r prentisiaid dalu ceiniog tuag at eu hyfforddiant a byddant yn cael eu thalu.

BLE FYDD Y PRENTISIAID YN GWEITHIO?

Lleolir y cynyrchiadau yng Nghymru, ond mae’n bosib y bydd angen i rai prentisiaid deithio yn achlysurol i setiau a lleoliadau ffilmio mewn ardaloedd eraill.

SUT FYDD RHAGLEN Y BRENTISIAETH N CAEL EI STRWYTHURO?

Rhaglen llawn-amser dros 12 mis yw hon a dyma fydd y strwythur:

  • Bydd y rhaglen yn dechrau gyda bloc dysgu rhithwir/bloc dysgu wyneb i wyneb sef cwrs rhagarweiniol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â brentisiaid eraill fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
  • Yn dilyn y cwrs rhagarweiniol bydd pob prentis yn mynd at eu lleuoliad lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol.  Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth (rhithwir) yn ystod cyfnod 12 mis y rhaglen.
  • Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn cwblhau’r Rhaglen Gloi.  Bydd hwn yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
  • PWYSIG – Yn dilyn 12 mis o ddysgu a hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cemniau lleoliad.  Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmniau cynhyrchu yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 12 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.

PWYSIG – Amserau Gwaith tra mewn Swydd

Mae natur cynhyrchiad yn golygu’n bur aml bod angen hyblygrwydd a bydd gofyn i’r prentis weithio oriau hir dros gyfnodau amser dwys.

Rhaid i chi fod yn ymwybodol ei bod hi’n bosib y bydd angen i chi weithio hyd at 12 awr y diwrnod gan gynnwys penwythnosau.  Bydd diwrnodiau byrrach a/neu gwyliau ychwanegol yn gwneud yn iawn am hyn.

BETH SY’N DDISGWYLEDIG O’R PRENTISIAID AR ÔL IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y PRENTISIAETH?

Bydd disgwyl i chi:

  • weithio fel aelod iau criw a chwblhau tasgau a osodwyd gan eich goruchwyliwr
  • fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gyda Pennaeth Hyfforddi Sgil Cymru yn ogystal a cyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn reolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwysedd
  • fynychu pob sesiwn dosbarth rhithwir/wyneb i wyneb
  • fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda chynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi
  • gwblhau pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster

SUT FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU CEFNOGI AR Y RHAGLEN?

  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda pob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro
  • Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis i ennill y cymhwyster
  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda pob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen
  • Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi

SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?

Ar ddiwedd y 12 mis bydd gan prentisiaid:

  • Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
  • Portffolio o waith
  • Cysylltiadau yn y diwydiant
  • Gwella tebygolrwydd o gael swydd
  • Sgiliau technegol a proffesiynol
  • Diploma mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft

Y BROSES GYFWELD

  • Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu Gweithdy. Yma byddwch yn cael cyfarfod â staff Sgil Cymru.
  • Yn dilyn y gweithdai, cynhelir cyfweliadau Sgil Cymru.
  • Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw.  Bodd bynnag bydd rhaid i chi arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hwn.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gymryd prawf llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd. Wedi hyn bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com