Chwech Prentis Newydd yn Dechrau

Croesawodd Sgil Cymru chwech o brentisiaid newydd i Stiwdio Pinewood Cymru wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf mewn Marchnata a Chyfryngau Rhyngweithiol. Wedi sesiwn agoriadol a barodd bythefnos, bydd y prentisiaid yn dechrau yn eu gweithle gyda’u cyflogwyr perthnasol.

Ana

Ana Garzon 

Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect a Digwyddiadau efo Amplified Business Content

“Gweithiaismewn cynhyrchiad radio am bedair blynedd; yn cynorthwyo cynhrchu  fideos cerddoriaeth, ffilmiau ac eitemau  byr , ac ro’n ’’n gwirffoddolwr yn Cwpan y Byd Pêl-fasged FIBA yn yr Adran Cyfryngau. Rwy’n gyffrous iawn am y cyfle hwn. Mae pymtheg mis o brofiad yn rhywbeth nad ydych yn gallu dod o hyd ym mhob man, yn enwedig yn y Cyfryngau. Rwy’n credu fod hyn yn mynd i fod yn wych ar gyfer fy ngyrfa!”

chloe

Chloe Johnson

Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect a Digwyddiadau efo Amplified Business Content

“Ar ôl cwblhau dwy flynedd yn y coleg, penderfynais nad oeddwn eisiau mynychu Prifysgol gan  nad oedd cyrsiau yn berthnasol i mi. Siaradais â fy ymgynghorydd gyrfaoedd a helpodd i mi edrych am Brentisiaeth, a fyddai’n caniatáu i mi i ddysgu yn y swydd. Alla’i ddim aros i ddechrau ar y rhaglen Prentisiaeth ac ehangu fy sgiliau a gwybodaeth. Rwyf yn fodlon iawn â’r broses ac rwyf yn gobeithio y byddaf yn cyflawni swydd amser llawn y byddai’mfwynhau erbyn diwedd y broses.”

sam

Sam Levy 

Prentis Cynorthwy-ydd Cyfathrebu efo Equinox

“Roeddwn i wedi bod yn astudio yn y coleg, gyda’r bwriad cychwynnol o fynd i brifysgol, ond ar ôl tair blynedd o astudio nid oeddwn yn gallu dod â fy hun i dreulio blynyddoedd yn y brifysgol. Mae prentisiaeth yn helpu rhoi profiad ymarferol i chi, cyfle llawer yn uwch o gael cyflogaeth wedyn, a ‘dych yn cael eich talu!”

 

 

hannahHannah Swain

Prentis Gweithredwr Cyfryngau efo Golley Slater

“Ar ôl llawer o flynyddoedd o eistedd mewn ystafell dosbarth, rwyf yn dyheu am brofiad gwaith go iawn, yna cefais wybod gan fy ymgynghorydd gyrfaoedd i feddwl am chwilio am brentisiaeth. Alla i ddim aros i ddechrau gweithio gyda Golley Slater, a rwyf yn gobeithio cael llawer o brofiad a dysgu mwy am y rolau gwahanol sy’n rhan o asiantaeth marchnata. Rwyf yn gobeithio y bydd cael profiad go iawn yn y byd gweithio, yn gwella fy hyder ac yn rhoi sicrwydd i mi o fy ngalluoedd.”

ollieOllie Turner

Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata a Gweinyddol efo Introbiz

“Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddechrau hyn a gweld beth mae’n ei olygu. Mae’n brofiad hollol newydd i mi ond yn gyfle gwych i ddysgu llawer a chael profiad ardderchog. Rwy’n lwcus bod Sgil Cymru wedi fy helpu  oherwydd hebddynt nid wyf yn credu y byddwn i wedi bod yn gallu cael y rôl hon. Rwy’n credu ei fod yn mynd i fod yn bleser llwyr.”

 

 

jaimieJaimie Warburton

Prentis Datblygydd Gwe efo IT Pie

“Collais fy swydd diweddar a penderfynais fentro i mewn i wneud gwaith dylunio gwe llawrydd. Gwnes i ychydig o wefannau ar gyfer busnesau lleol ac ehangu fy mhortffolio er mwyn dechrau ceisio am swyddi gwag ddatblygwr gwe lefel mynediad.  Roedd yn gyfle prin ar gyfer rhywun o fy oedran i gan fod y rhan fwyaf o brentisiaethau yn cyfyngu ar uchafswm oed yr ymgeisydd i bedwar ar hugain, nid yw’r cyfle yma yn debyg i unrhyw un arall sydd ar gael yng Nghymru. Mae’r tîm yn Sgil Cymru wedi bod yn groesawgar a chyfeillgar ac yn gwenud eu gorau glas i’ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallent.“

Dilynwch eu siwrne dros y pymtheg mis nesaf trwy ddilyn Sgil Cymru ar Facebook a Twitter. Gallwch gael gwybodaeth sut i gyflogi prentis yma, neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn brentis, cymerwch olwg ar ein swyddi gwag cyfredol.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.