CRIW

CRIW

MAE CEISIADAU NAWR AR GAU AR GYFER CRIW!

Mae Sgil Cymru yn hynod falch unwaith eto o gyhoeddi CRIW, ein Rhaglen Brentisiaeth unigryw, sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol.Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set, yma yng Nghymru.

Crëwyd y Rhaglen Brentisiaeth hon i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant. Byddwch yn barod i dreulio blwyddyn wedi ymgolli mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, cwrdd â phobl newydd a gweithio’n galed i gwblhau heriau newydd – gyda chyflog i’ch cefnogi wrth i chi ddysgu. CRIW yw eich cyfle chi i ddatblygu’r sgiliau ac ennill y profiad ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn.

Cafwyd cynllun peilot llwyddiannus ar gyfer CRIW yn 2020 a bu’r prentisiaid hynny yn gweithio ar set drama boblogaidd Fox, War of the Worlds, gyda Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu. Darllenwch fwy am sut brofiad gafodd Tom, Josh a Jake yn Bywyd fel Prentis. Yn fwya ddiweddar, mae 10 prentis CRIW wedi bod yn gweithio i gwmnïau ac ar draws gynyrchiadau gwahanol ar y cynllun CRIW.Cynyrchiadau yn cynnwys Mr Burton, The Guest, Young Sherlock, Under Salt Marsh, Still Waters/Dŵr, Hafiach, Madfabulous, Bariau II, The Way, Lost Boys & Fairies, Pren ar y Bryn, Creisis, Gen Z, Time Stalker, Out There, Sex Education series 4, Black Cake, Wolf, Luke Evans Showtime, Steel Town Murders, Extinction, War of The Worlds 3, A Million Days, Y Gyfrinach, Y Golau, Casualty, Dal y Mellt, In My Skin 2, Havoc, The Trick, The Pact II ac hefyd wedi cael eu lleoli gyda Gorilla, cyfleuster ôl-gynhyrchu.

Mae Cymru eisoes wedi’i sefydlu fel un o leoliadau mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, ac mae disgwyl i 2023 fod yn flwyddyn brysur eto!

Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a chefndir economaidd-gymdeithasol.

 

MAE PRENTISIAETHAU CRIW YN RHEDEG YN NE A GOGLEDD CYMRU.

CLICIWCH AR Y LINCIAU ISOD AM FWY O WYBODAETH AC I YMGEISIO:

CRIW YN Y DE

CRIW YN Y GOGLEDD