CRIW 2022-2023: Cwrdd a Daniel

Mae Dan eisioes wedi dechrau gweithio gyda Gorilla mewn ol-gynhyrchiad! Dyma cyfweliad a fidio amdano:

 

1.Ble rydych chi wedi cael eich lleoli a beth ydych chi’n ei wneud?

Ar hyn o bryd dwi’n gweithio i Gorilla, cwmni sy’n delio efo sawl  agwedd o  ol-gynhyrchu ,er enghraifft, golygu a graddio .

 

2.Beth yw’r syrpreis mwyaf i chi ei gael hyd yn hyn?

Doeddwn i ddim yn sylweddoli y camau oedd angen digwydd ym mhob rhaglen deledu yn ystod y broses ol-gynhyrchu. Dim yn unig golygu, graddio  a dybio sydd yn cael ei wneud ond cymysgu sain, rheoli ansawdd ag effeithiau arbennig yn ogystal a deall rol y goruchwyliwr ol-gynhyrchu ac yn y blaen.

 

3.Ydych chi’n gweithio gydag unrhyw brentisiaid presennol neu gyn-brentisiaid?

Rydw i’n gweithio efo Alex Evans oedd yn brentis CRIW  efo Sgil Cymru yn 2021-22.

 

4.Beth yw’r rhan orau o’r profiad hyd yn hyn?

Cyfarfod y talent sy’n gweithio gyda’r cwmni, neillai yng Nghaerdydd neu yn swyddfeydd newydd Gorilla ym Mryste.

 

5.Beth fu’r her fwyaf?

Ar fy ail wythnos o fod yn rhedwr aeth y ddwy rhedwr arall bant yn sal felly roedd rhaid i mi weithio rhwng dair llawr yn yr adeilad yn edrych ar ôl staff a cleientiaid cyn gorfod gyrru i Fryste a Hereford er mwyn casglu y “rushes” ar gyfer y rhaglenni. Er y diwrnodau hir fe wnes i fwynhau’r her yn fawr iawn!