Ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ac wedi ystyried gweithio yn y byd ffilm a theledu?
Mae prentisiaeth CRIW yn recriwtio ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru. Mae ymgeisiadau yn cau am 12yp ar Ddydd Llun y 31ain o Hydref, felly peidiwch a cholli allan!
Ymgeisiwch nawr!
Fe ofynon ni i un o’r prentisiaid presennol, Ryan Davies, pam y dylai pobl ymuno gyda CRIW. Dyma oedd ganddo i ddweud:
1.Beth fyddet ti’n dweud i annog rhywun i fynd amdani?
Yn wahanol i Brifysgol, rydych chi’n cael eich talu i ddysgu.
2.Beth fydde’r neges fwyaf pwysig?
Eich bod yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant.