CRIW GOGLEDD – 5 Diwrnod i Ymgeisio! – Tysteb Elin Glyn Jones

Ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ac wedi ystyried gweithio yn y byd ffilm a theledu?

Mae prentisiaeth CRIW yn recriwtio ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru. Mae ymgeisiadau yn cau am 12yp ar Ddydd Llun y 31ain o Hydref, felly peidiwch a cholli allan!

Ymgeisiwch nawr!

Fe ofynon ni i un o’r prentisiaid presennol, Elin Glyn Jones, pam y dylai pobl ymuno gyda CRIW. Dyma oedd ganddi i ddweud:

 

1.Beth fyddet ti’n dweud I annog rhywun I fynd amdani?

I fod yn onest, I rhywun sydd yn dod ar draws y prentisiaeth yma dwi ddim yn meddwl bod angen llawer o annog i wneud. Pan welais hwn am y tro cynta fu bron i fi pincho fy hyn.

Mae dy lwyddiant yn y diwydiant cyfryngau yn oll ddibynol ar dy brofiad a contacts. I fi – sydd ddim yn nabod neb yn y cyfryngau, roedd i’w weld yn amhosib cael troed yn y drws, I gael y profiad on i angen a cyfarfod y pobl iawn. 

Dyna yn union beth mae’r prentisiaeth yma yn gynnig, troed yn drws a’r cyfle i gael profiad – Sue, Lowri a Nadine yw’r metaphorical door stops.

 

2.Beth fydde’r neges fwyaf pwysig?

Trio.

I fi dyma’r peth pwysicaf.

Trio am y prentisiaeth

Trio ar y placements

Trio rhywbeth newydd

Na’r oll fedri di neud ac y mwya ti’n trio, y mwya gei di allan ohono fo.

 

Mae y prentisiaeth wedi bod yn brofiad aur.