CRIW GOGLEDD – YN RECRIWTIO’N FUAN! – Tysteb Chloe Koffler

Ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ac wedi ystyried gweithio yn y byd ffilm a theledu?

Bydd prentisiaeth CRIW yn dechrau recriwtio yn y gogledd yn y misoedd nesaf felly cadwch eich llygaid allan am unrhyw newyddion!

Fe ofynon ni i un o’r prentisiaid presennol, Chloe Koffler, pam y dylai pobl ymuno gyda CRIW. Dyma oedd ganddi i ddweud:

 

1.Beth fyddet ti’n dweud i annog rhywun i fynd amdani? 

O ran y brentisiaeth, byddwn yn annog pobl i wneud cais sydd â diddordeb mewn dysgu am sut mae’r diwydiant teledu a ffilm yn gweithio. Fel gydag unrhyw brentisiaeth, y brif fantais yw eich bod yn ennill wrth ddysgu, gan ennill profiad yn y byd go iawn. Hefyd mae cael y cyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol y diwydiant am lwybrau gyrfa posibl yn amhrisiadwy. Mae’n rhoi blas o’r hyn i’w ddisgwyl yn y diwydiant, os dymunwch fynd ar ei drywydd ymhellach.

 

2.Beth fydde’r neges fwyaf pwysig? 

Wrth hyrwyddo’r brentisiaeth, rwy’n meddwl mai’r neges bwysicaf i’w phwysleisio yw bod y brentisiaeth yn help mawr i unigolion sy’n gwbl newydd i’r diwydiant. Mae diddordeb/angerdd yn ddymunol ond does dim angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae’n rhoi cyfle i brentisiaid weithio ar leoliadau tra’n ennill cyflog misol a gweithio tuag at gymhwyster.

 

Bydd mwy o fanylion am brentisiaeth CRIW y gogledd yn dilyn yn yr wythnosau nesaf!