CRIW GOGLEDD – YN RECRIWTIO’N FUAN! – Tysteb Eleri Parry

Ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ac wedi ystyried gweithio yn y byd ffilm a theledu?

Bydd prentisiaeth CRIW yn dechrau recriwtio yn y gogledd yn y misoedd nesaf felly cadwch eich llygaid allan am unrhyw newyddion!

Fe ofynon ni i un o’r prentisiaid presennol, Eleri Parry, pam y dylai pobl ymuno gyda CRIW. Dyma oedd ganddi i ddweud:

 

1.Beth fyddet ti’n dweud i annog rhywun i fynd amdani?

Fyswn i yn dweud ei fod yn gyfle gwych i ddysgu wrth weithio ag i fagu hunan hyder.

 

2.Beth fydde’r neges fwyaf pwysig?

Y neges fwyaf pwysig dwi’n meddwl yw peidio cymharu dy siwrnai ag eraill, hefyd i ‘joio’r brofiad a gwybod fod yna cyfleodd grêt ar y diwedd!

 

Bydd mwy o fanylion am brentisiaeth CRIW y gogledd yn dilyn yn yr wythnosau nesaf!