CRIW GOGLEDD – YN RECRIWTIO’N FUAN! – Tysteb Tomos Jones

Ydych chi’n byw yng ngogledd Cymru ac wedi ystyried gweithio yn y byd ffilm a theledu?

Bydd prentisiaeth CRIW yn dechrau recriwtio yn y gogledd yn y misoedd nesaf felly cadwch eich llygaid allan am unrhyw newyddion!

Fe ofynon ni i un o’r prentisiaid presennol, Tomos Jones, pam y dylai pobl ymuno gyda CRIW. Dyma oedd ganddo i ddweud:

 

1.Beth fyddet ti’n dweud i annog rhywun i fynd amdani? 

Os wyt ti gyda’r diddordeb i weithio yn y diwydiant, mae Sgil Cymru yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd ag yn cynnig rhagflas gwych o’r gwaith sydd ar gael.

 

2.Beth fydde’r neges fwyaf pwysig? 

I ymgolli ymhob cyfle sydd ar gael.

 

Bydd mwy o fanylion am brentisiaeth CRIW y gogledd yn dilyn yn yr wythnosau nesaf!