Ceisiadau nawr AR GAU
Eisiau profiad go iawn o weithio tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau teledu a ffilm?
Mae ceisiadau CRIW yn y de nawr AR GAU.Mae Sgil Cymru yn hynod falch unwaith eto o gyhoeddi CRIW, Rhaglen Brentisiaeth unigryw ar gyfer 2024, sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol yn Ne Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set, yma yng Nghymru. Crëwyd y Rhaglen Brentisiaeth hon i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant.
Byddwch yn barod i dreulio blwyddyn wedi ymgolli mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, cwrdd â phobl newydd a gweithio’n galed i gwblhau heriau newydd – gyda chyflog i’ch cefnogi wrth i chi ddysgu. CRIW yw eich cyfle chi i ddatblygu’r sgiliau ac ennill y profiad ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn. Cafwyd cynllun peilot llwyddiannus ar gyfer CRIW yn 2020 a bu’r prentisiaid hynny yn gweithio ar set drama boblogaidd Fox, War of the Worlds, gyda Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu. Darllenwch fwy am sut brofiad gafodd Tom, Josh a Jake yn Bywyd fel Prentis.
Mae cyn prentisiaid a phrentisiaid presennol wedi gweithio i gwmnïau ac ar draws gynyrchiadau gwahanol ar y cynllun CRIW. Cynyrchiadau yn cynnwys The Way, Lost Boys & Fairies, Pren ar y Bryn, Creisis, Gen Z, Time Stalker, Delia Balmer, Out There, Sex Education series 4, Black Cake, Wolf, Luke Evans Showtime, Steel Town Murders, Craith 3, Jamie Johnson, 4 Stories – On the Edge 3 (3 ffilm fer), Extinction, War of The Worlds 3, A Million Days (ffilm), Y Gyfrinach, Y Golau, Casualty, Dal y Mellt, In My Skin 2, Havoc (ffilm), The Trick, Casualty, The Pact II ac hefyd wedi cael eu lleoli gyda Gorilla, cyfleuster ôl-gynhyrchu.
Mae Cymru eisoes wedi’i sefydlu fel un o leoliadau mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, ac mae disgwyl i 2024 fod yn flwyddyn brysur eto! Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cwestiynau Cyffredin Beth bydd prentisiaid yn ei ddysgu yn ystod y 12 mis?
Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau yn ennill hyfforddiant ymarferol ‘hands-on’, gwneud cysylltiadau diwydiant ac yn ennill sgiliau technegol a phroffesiynol. Byddant hefyd yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Creu i’r Cyfryngau, Cynhyrchu a Chymorth Crefft, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.
Ble bydd yr hyfforddiant yn digwydd?
Rhannir yr hyfforddiant rhwng ‘off the job’ (dysgu arlein a sesiynau wyneb i wyneb yng nghanolfan hyfforddi Sgil Cymru, Great Point Seren Stiwdios, Tredelerch, Caerdydd) ac hyfforddiant ‘on the job’ (lleoliadau cynhyrchu yn Ne Cymru).
Pwy all wneud cais i’r brentisiaeth hon?
Mae’r cynllun Prentisiaeth hwn ar Lefel 3 ac felly’n cyfateb i Lefel A. Sylwch: nid yw ein cynlluniau prentisiaeth wedi’u hanelu at raddedigion. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os nad yw eich gradd yn yr un maes galwedigaethol â’r rhaglen brentisiaeth hon.
Alla’i wneud y brentisiaeth os ydw i mewn addysg amser llawn?
Na, ni fyddwch yn cael gwneud cais am y cynllun prentisiaeth os ydych chi mewn addysg llawn amser o’r 28ain o Fai, 2024. Bydd prentisiaid ar gontract llawn amser am gyfnod y rhaglen brentisiaeth, felly mae’n rhaid i chi fod ar gael i weithio ac astudio am y cyfnod cyfan.
Pa gymwysterau fydda i eu hangen i geisio am y rhaglen brentisiaeth hon?
O leia 4 TGAU gyda’r graddau A* i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.
Oes rhaid i brentisiaid dalu unrhyw beth i astudio neu ydyn nhw’n cael eu talu?
Na, caiff y cymhwyster a’r hyfforddiant eu hariannu’n llawn. Mae pob prentis yn cael cyflog blynyddol o £15,000.
Pwy sy’n cyflogi’r brentisiaid?
Bydd pob prentis yn cael ei gyflogi gan Prentis Sgil Cymru ar gontract cyfnod penodol. Sgil Cymru fydd yn rheoli’r lleoliadau a’r hyfforddiant.
Ble bydd y prentisiaid yn gweithio?
Lleolir y cynyrchiadau yn Ne Cymru, ond bydd angen i’r prentisiaid deithio i setiau a lleoliadau ffilmio dros Dde Cymru.
Sut bydd rhaglen y brentisiaeth yn cael ei strwythuro?
- Bydd y rhaglen yn dechrau gyda bloc dysgu sef cwrs rhagarweiniol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â phrentisiaid eraill fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â phobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster Diploma Lefel 3 yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
- Yn dilyn y cwrs rhagarweiniol, bydd pob prentis yn mynd at eu lleoliad lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant eu hangen i weithio yn y diwydiannau creadigol. Darperir hyfforddiant bellach arlein ac yn y dosbarth yn ystod cyfnod 12 mis y rhaglen. Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn cwblhau’r Rhaglen Gloi. Bydd hon yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
- PWYSIG – Yn dilyn 12 mis o ddysgu ac hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cwmnïau lleoliad. Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmnïau cynhyrchu yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 12 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.
Mae natur cynyrchiadau yn golygu’n aml bod angen hyblygrwydd a bydd gofyn i’r prentisiaid weithio oriau hir dros gyfnodau amser dwys. Maen rhaid i chi fod yn ymwybodol y bydd angen i chi weithio hyd at 12 awr y diwrnod gan gynnwys penwythnosau. Bydd diwrnodau byrrach a/neu gwyliau ychwanegol ar gael yn yr achos hwn.
Oes angen trwydded yrru arnoch i wneud cais am y cynllun prentisiaeth hwn?
Oes, gan y bydd cynyrchiadau a lleoliadau dros ardal de Cymru, mae’n hollbwysig bod prentisiaid yn gallu cyrraedd y lleoliadau hynny bob amser o’r dydd. Bydd rhai lleoliadau yn anghysbell ac efallai y bydd angen i chi hefyd deithio rhwng lleoliadau yn ystod y dydd felly bydd cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hynod o anodd.
Beth sy’n ddisgwyledig o’r prentisiaid ar ôl iddynt gael eu derbyn ar y cynllun prentisiaeth?
Bydd disgwyl i chi:
- weithio fel aelod CRIW iau a chwblhau tasgau a osodwyd gan eich goruchwyliwr.
- fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gyda Phennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru.
- gyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn rheolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwyso.
- fynychu pob sesiwn arlein/wyneb i wyneb.
- fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda chynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi.
- gwblhau pob elfen o’r Fframwaith Prentisiaeth er mwyn cwblhau’r cymhwyster.
- Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda phob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro.
- Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis er mwyn ennill y cymhwyster.
- Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda phob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen.
- Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi.
- Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu gweithdy recriwtio. Yma byddwch yn cael cyfarfod â staff Sgil Cymru a phobl proffesiynol o’r diwydiant. Bydd y sesiynau yn cynnwys tasgau grwp ac unigol a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.
- Yn dilyn y gweithdai recriwtio, cynhelir cyfweliadau arlein efallai gyda Sgil Cymru. Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw. Bodd bynnag bydd rhaid i chi arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
- Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle. Bydd yn ofynnol i chi gwblhau asesiadau WEST mewn llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd a chwblhau gwaith papur yn ogystal â darparu tystysgrifau cymhwyster a dogfennau adnabod.
Mae ceisiadau yn cau ddydd Llun, 8fed o Ebrill am hanner dydd.
Ni fydd ceisiadau a ddaw ar ôl yr amser hwn yn cael eu derbyn.
Os ydych chi’n cael problemau wrth gwblhau eich cais neu os oes angen cymorth mynediad arnoch, cysylltwch â ni.
Pryd mae’r gweithdai recriwtio?
Cynhelir y gweithdai yn ystod yr wythnos yn cychwyn 22ain o Ebrill, 2024.
Pryd mae’r brentisiaeth yn dechrau?
Mae’r brentisiaeth yn dechrau ddydd Mawrth, 28ain o Fai, 2024.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com
Swydd Ddisgrifiad a Ffurflen Gais YMA
MAE CEISIADAU AR GAU AR GYFER CRIW AR HYN O BRYD.